Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1921 (Cy.175) (C.91)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009

Gwnaed

16 Gorffennaf 2009

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym yw 1 Medi 2009—

(a)adran 36 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn preswylio);

(b)adran 37 (hyd gorchmynion preswylio);

(c)adran 38 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig); ac

(ch)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) o Deddf Plant 1989(2) ac â diddymu'n rhannol adran 91(10) o'r Ddeddf honno.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

16 Gorffennaf 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Medi 2009 adrannau 36, 37, 38 a 42 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, ac Atodlen 4 iddi, i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn. Mae'r cyfeiriad, yn Erthygl 2(ch) o'r Gorchymyn, at ddiddymu'n rhannol adran 91(10) o Ddeddf Plant 1989, yn gyfeiriad at hepgor y geiriau “or 12(5)” o'r adran honno.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 306 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 311 Ebrill 20092009/268 (C.11)
Adran 321 Ebrill 20092009/268 (C.11)
Adran 356 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 19896 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)