Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2009, a deuant i rym ar 28 Awst 2009.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989(1) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 7B (Taliadau gohiriedig: darpariaeth arbennig mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2009, 2010 a 2011) mewnosoder—
“Deferred payments: special provision in relation to Wales for the financial years beginning on 1 April 2009, 2010 and 2011
7C. Schedule 1D which contains special provision in relation to payments under demand notices relating to financial years beginning on 1 April 2009, 1 April 2010 and 1 April 2011, must have effect.”.
(3) Ar ôl Atodlen 1C, mewnosoder Atodlen 1D, a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Canolog) 1989
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Canolog) 1989(2) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 7 (taliadau o dan hysbysiadau galw am dalu: darpariaeth bellach) mewnosoder—
“Deferred payments: special provision in relation to Wales for the financial years beginning on 1 April 2009, 2010 and 2011
7B. Schedule 1B, which contains special provision in relation to payments under demand notices relating to financial years beginning on 1 April 2009, 1 April 2010 and 1 April 2011, must have effect.”.
(3) Ar ôl Atodlen 1A, mewnosoder Atodlen 1B, a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Addasu Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993
4.—(1) Rhaid i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(3) fod yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2010 ac 1 Ebrill 2011 fel pe bai'r diffiniad o “the relevant year” yn rheoliad 2 (dehongli) wedi ei ddisodli gan y canlynol—
““the relevant year”, in relation to a notice, means the financial year to which the demand for payment made by the notice relates; but where, pursuant to regulation 4 (the requirement for demand notices) of the Non-Domestic Rating (Collection and Enforcement) (Local Lists) Regulations 1989 (as modified by the Non-Domestic Rating (Deferred Payments) (Wales) Regulations 2009), the notice relates to more than one chargeable financial year “the relevant year” means the financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011 (as the case may be);”.
Addasu Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992
5. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2009, rhaid i reoliad 6 (ailgyfrifo symiau amodol) o Reoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(4) gael effaith fel pe bai paragraffau (2)(b) a (4) wedi eu hepgor.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
31 Gorffennaf 2009