Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“Gorchymyn 1995”). Mae Atodlen 2 yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir o ran datblygu penodol. Pan fo'r cyfryw hawliau yn gymwys, nid oes angen cais penodol am ganiatâd cynllunio.

Mae erthygl 2(4) yn mewnosod Rhan 40 newydd yn Atodlen 2 o Orchymyn 1995. Mae'n darparu hawliau datblygu a ganiateir i osod mathau penodol o gyfarpar microgynhyrchu ar dai annedd neu fflatiau neu o fewn cwrtil tai annedd neu fflatiau, yn ddarostyngedig i feini prawf ac amodau penodol. Mae erthygl 2(2) a 2(3) yn gwneud newidiadau canlyniadol.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael drwy'r post oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.