- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu 1997 (p.50) mewn darpariaethau a geir mewn amryw setiau o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989 (p.41), Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14) a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Mae'r Rheoliadau sy'n cael eu diwygio'n ymwneud â gwarchod plant, gofal dydd, asiantaethau mabwysiadu, asiantaethau cymorth mabwysiadu, cartrefi plant, asiantaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu llywodraeth leol, canolfannau preswyl i deuluoedd, cynlluniau lleoli oedolion, cartrefi gofal, asiantaethau gofal cartref, asiantaethau nyrsys, sefydliadau ac asiantaethau gofal iechyd preifat a gwirfoddol a gwasanaethau deintyddol preifat.
Gwneir y diwygiadau er mwyn adlewyrchu newidiadau sydd wedi digwydd yn sgil diwygiadau sydd wedi eu gwneud i Ddeddf yr Heddlu 1997 gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Un o'r newidiadau yw na fydd gwybodaeth ynghylch p'un a yw person wedi ei wahardd rhag gweithio gyda grwpiau hyglwyf (gwybodaeth am addasrwydd) ar gael ond mewn achosion rhagnodedig pan wneir cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl. Yn gyfredol, mae'r cyfryw wybodaeth hefyd ar gael mewn amgylchiadau penodedig gyda thystysgrif cofnod troseddol safonol.
Mae mwyafrif y diwygiadau a wneir yn y Rheoliadau hyn yn ymwneud â darpariaethau sy'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gael pan fo person yn bwriadu rhedeg neu reoli asiantaeth neu sefydliad y mae'n ofynnol i berson gael ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â hi neu ag ef, neu weithio at ddibenion asiantaeth neu sefydliad o'r fath. Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys diwygiadau sy'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gael pan fo person am weithredu fel gwarchodwr plant neu am ddarparu gofal dydd neu pan fo am weithio i warchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd pan fo'n ofynnol i berson gael ei gofrestru o dan Ran 10A o Ddeddf Plant 1989. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Rheoliadau'n cynnwys diwygiadau sy'n ymwneud â darpariaethau yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313) sy'n pennu pa wiriadau y mae'n rhaid i asiantaeth fabwysiadu eu gwneud mewn cysylltiad â darpar fabwysiadydd ac aelodau o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n oedolion a darpariaethau cyffelyb yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/237) mewn perthynas â gwiriadau ar ddarpar rieni maeth ac aelodau o'u haelwyd sy'n oedolion.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau cyffelyb at ddarpariaethau yn Neddf yr Heddlu 1997 yn Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 (O.S. 2002/919). Mae'r Rheoliadau hyn dyddiedig 2002 yn gymwys i sefydliadau ac asiantaethau sy'n ymwneud ag oedolion, iechyd a phlant, gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd ac maent yn llywodraethu'r wybodaeth a'r dogfennau y mae'n rhaid eu darparu pan fyddant yn gwneud cais am gael eu cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu am gael eu cofrestru o dan ran 10A o Ddeddf Plant 1989.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys diwygiadau i reoliadau amrywiol a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 drwy ddileu cyfeiriadau at wiriadau heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 gan nad yw'r rhain ar gael mwyach. Mae cyfeiriadau at adroddiadau ar wiriadau ar y rhestrau a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (a elwir yn “rhestr POCA”) ac o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (a elwir yn “Rhestr 99”) hefyd wedi eu dileu gan na ellir cyrchu'r wybodaeth ar y rhestrau hyn ond drwy dystysgrif cofnod troseddol fanwl. Effaith y diwygiadau hyn yw bod yn rhaid i dystysgrif cofnod troseddol fanwl fod ar gael pan fo person y mae'r rheoliadau perthnasol yn gymwys iddo'n ymgymryd â gweithgaredd a reolir ac sy'n ymwneud â phlant.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys diwygiadau sy'n cyfeirio at hysbysiadau o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n datgan nad yw unigolyn wedi ei gynnwys ar “restr oedolion penodedig”. Bydd yr uchod yn cynnwys y rhestr Amddiffyn Oedolion Hyglwyf (POVA) a gedwir o dan adran 89 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a'r rhestr oedolion gwaharddedig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Effaith y diwygiadau yw caniatáu i berson y mae'r rheoliadau perthnasol yn gymwys iddo gael ei gofrestru neu weithio at ddibenion asiantaeth neu sefydliad y mae'n ofynnol iddi gael ei chofrestru neu iddo gael ei gofrestru os gwnaed cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl ond nas dyroddwyd ar yr amod bod y cyfryw hysbysiad wedi dod i law.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2695). Gwneir y diwygiadau er mwyn diweddaru'r seiliau ar gyfer datgymhwyso o dan Reoliadau 2004 er mwyn cynnwys pan fydd person wedi'i gynnwys ar y rhestr waharddedig o ran plant a sefydlwyd gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad i Reoliadau 2004 ynglŷn â seiliau'r datgymhwysiad pan fydd person wedi'i wahardd rhag addysgu. Disodlir cyfeiriad at restr Deddf Diwygio Addysg gan gyfeiriad at gyfarwyddyd a wneir o dan Ddeddf Addysg 2002. Dilewyd hefyd y cyfeiriad at restr Deddf Addysg 1996 am fod y darpariaethau hyn wedi cael eu diddymu.
Gwneir mân ddiwygiad hefyd i Reoliadau 2004 er mwyn cywiro gwall ynglŷn â thramgwyddau penodedig sy'n sail i ddatgymhwysiad.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau penodol yn Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002. Diben y diwygiadau yw dileu anghysonder mewn perthynas â rheoliad 6 (Ffitrwydd y darparydd cofrestredig); mewn perthynas â rheoliad 8 (Ffitrwydd y rheolwr), dirymu ac ailddeddfu gofyniad mewn perthynas â chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru ac, mewn perthynas â rheoliad 26 (Ffitrwydd gweithwyr), egluro y caniateir i berson gael ei gyflogi i weithio mewn cartref plant tra bydd yn aros i'w gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru, ar yr amod bod y gwaith o'i gofrestru'n cael ei gwblhau cyn pen y cyfnod o amser a bennir yn Rheoliadau 2002.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad i reoliad 43 o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 er mwyn cywiro gwall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: