2009 Rhif 2633 (Cy.216)
ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) (Diwygio) 2009

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921 i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi1.

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 23 Hydref 2009.

Diwygio Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 20092.

Yn nhestun Cymraeg Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 20093 ym mharagraff 2 o Ran 1 o'r Atodlen hepgorer y geiriau “ymyl du a chroeslinellau” a rhodder yn eu lle y geiriau “ymyl du a llinellau lletraws”.
John Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cywiro gwall yn nhestun Cymraeg Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009.

Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.