RHAN 5Penodi cynrychiolwyr
Penodi cynrychiolydd
12. Bydd corff goruchwylio yn penodi mewn ysgrifen unrhyw berson a ddetholir yn unol â Rhan 4 yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.
Gofynion ffurfiol penodi cynrychiolydd
13. Rhaid hysbysu'r personau canlynol o benodiad cynrychiolydd—
(a)y person perthnasol;
(b)yr awdurdod rheoli perthnasol;
(c)unrhyw roddai neu ddirprwy i'r person perthnasol;
(ch)unrhyw eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol(1) a benodwyd yn unol â'r Ddeddf; a
(d)unrhyw berson y bydd yr asesydd lles pennaf wedi ymgynghori ag ef.
(1)
Caiff “independent mental capacity advocate” ei ddiffinio yn adran 64(1) o'r Ddeddf.