2009 Rhif 2717 (Cy.229)
Gorchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, adroddiad dyddiedig Chwefror 2009 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol o fewn rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy a'i gynigion ar eu cyfer.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru2:
Enwi a chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009.
2
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
3
At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
Dehongli
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”), “Map C” (“Map C”) a “Map D” (“Map D”), yn ôl eu trefn, yw'r mapiau sydd wedi'u marcio ag A, B, C a D, sef mapiau o Orchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009, a'r rheini wedi eu hadneuo'n unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763; ac
mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
3
Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Conwy yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.
Newidiadau mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
4
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel yr ardal resog ar Fap A—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
b
yn rhan o ward Tudno cymuned Llandudno; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Tudno.
5
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal “a” â chroeslinellau ar Fap B—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
b
yn rhan o ward Craig y Don cymuned Llandudno; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Craig y Don.
6
Mae'r rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog “b” ar Fap B—
a
wedi ei throsglwyddo i ward Craig y Don cymuned Llandudno; a
b
yn rhan o adran etholiadol Craig y Don.
7
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog “c” ar Fap B—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
b
yn rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Penrhyn.
8
Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal “a” â chroeslinellau ar Fap C—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;
b
yn rhan o ward Deganwy cymuned Conwy; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Deganwy.
9
Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog “b” ar Fap C—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;
b
yn rhan o ward Marl cymuned Conwy; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Marl.
10
Mae'r rhan o ward Marl cymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog “c” ar Fap C—
a
wedi ei throsglwyddo i ward Deganwy cymuned Conwy; a
b
yn rhan o adran etholiadol Deganwy.
11
Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog “a” ar Fap D—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;
b
yn rhan o ward Pen-sarn cymuned Conwy; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Pen-sarn.
12
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog “b” ar Fap D—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
b
yn rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Penrhyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)