Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009

Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys

105.—(1Caniateir i daliadau o'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(2Os na bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, cânt wneud asesiad dros dro a thalu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn rhandaliadau.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl ar yr adegau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant at lyfrau, teithio neu wariant arall na'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl o dan reoliad 89 cyn iddynt gael y datganiad o dan reoliad 102(2) i (6) oni bai bod eithriad yn gymwys.

(6Mae eithriad yn gymwys—

(a)os yw grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 89 yn daladwy, ac os felly, caniateir i'r grant penodol hwnnw gael ei dalu cyn i'r datganiad ddod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol o achos amgylchiadau eithriadol iddynt wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.