Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — y cyfrifiadau cychwynnol
95.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliadau 97 i 99, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 92;
(b)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 93; ac
(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 94.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (13), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal iddi, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A − B) yn hafal i gyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael neu'n fwy na'r cyfanswm hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—
(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—
(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
(5) Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm–
(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—
(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.
(6) Os yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu'n fwy na hynny ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy yw £50.
(7) Yn y rheoliad hwn—
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys; a
B yw—
(a)£1,159 os nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys blentyn dibynnol;
(b)£3,473 os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(c)£4,632—
(i)os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu
(ii)os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(ch)£5,797 os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys yn newid;
(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
(c)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;
(ch)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 85(23)(a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff).
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—
(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;
(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(10) Swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm symiau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(11) Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans hwnnw am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —
(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;
(b)fel arall, chwarter ac eithrio'r chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.
(13) Caniateir gwneud didyniad yn unol â rheoliadau 97 a 98 o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.