2009 Rhif 2818 (Cy.244)
Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 11(2), (4), (5) a (6) o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 20071.
Yn unol ag adran 11(7) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet, Gweinidogion yr Alban, Adran Cyllid a Phersonél Gogledd Iwerddon a'r Bwrdd Ystadegau.
Yn unol ag adran 65(7) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
Enwi a chychwyn1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 a daw i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cod” (“the Code”) yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau o dan adran 10 o'r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007; ac
ystyr “ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad” (“market-sensitive statistics”) yw ystadegau a fyddai, o'u datgelu, ym marn y person cyfrifol, yn rhesymol debygol o gael effaith arwyddocaol ar werth unrhyw fuddsoddiad neu ar nifer y trafodion ar unrhyw fuddsoddiad.
Ystadegau y mae'r rheolau a'r egwyddorion ynghylch gweld ystadegau cyn eu rhyddhau yn gymwys iddynt3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r Atodlen yn gymwys i'r ystadegau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
2
At ddibenion y Cod, mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer rheolau ac egwyddorion ynglŷn â chaniatáu i'r ystadegau hynny gael eu gweld cyn eu rhyddhau2.
3
a
sydd wedi'u dynodi'n “Ystadegau Gwladol” o dan adran 12(2) o'r Ddeddf, heb i'r dynodiad hwnnw gael ei ddileu;
b
y bernir yn rhinwedd adran 12(8) o'r Ddeddf eu bod wedi'u dynodi'n “Ystadegau Gwladol”, heb i'r dynodiad hwnnw gael ei ddileu; neu
c
y mae cais o dan adran 12(1) o'r Ddeddf wedi'i wneud mewn perthynas â hwy, heb i benderfyniad gael ei wneud o dan adran 12(2) o'r Ddeddf.
4
Nid yw'r Atodlen yn gymwys pan gaiff yr ystadegau eu rhyddhau dim ond er mwyn i gyhoeddiad electronig neu gyhoeddiad copi caled y bwriedir cyhoeddi'r ystadegau ynddo gael ei gynhyrchu.
ATODLENRheolau ac egwyddorion ynglŷn â gweld ystadegau cyn eu rhyddhau
Unigolion y gellir rhoi caniatâd iddynt weld ystadegau cyn eu rhyddhau, ac o dan ba amgylchiadau1
1
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y person cyfrifol5 roi caniatâd i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau dim ond i'r graddau y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol rhoi caniatâd i unigolyn adnabyddadwy penodol eu gweld er mwyn—
a
galluogi unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gyflwyno sylwadau cyhoeddus ar yr ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt;
b
galluogi unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) i bwyso a mesur goblygiadau'r ystadegau ar gyfer polisïau a rhaglenni Gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod unrhyw sylwadau cyhoeddus a gyflwynir gan unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) am y polisïau a'r rhaglenni hynny adeg cyhoeddi'r ystadegau neu ar ôl eu cyhoeddi yn adlewyrchu dealltwriaeth gywir ohonynt;
c
sicrhau na fydd unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn dibynnu ar ystadegau eraill sydd ar gael iddo, am yr un pwnc â'r ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau ar draul y canlynol–
i
arfer unrhyw rai o swyddogaethau Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu
ii
unrhyw sylw cyhoeddus a gyflwynir gan unigolyn a grybwyllir yn is-baragraff (3) ynglŷn â'r ystadegau eraill hynny,
heb iddo gael gwybod am yr ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau;
ch
sicrhau, pan fo cyhoeddiad neu ddeunydd arall yn cael ei baratoi gan neu ar ran unrhyw gorff cyhoeddus, swyddfa gyhoeddus neu ddeiliad swydd o'r fath i'w gyhoeddi yr un pryd neu yn fuan ar ôl yr ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau, fod unrhyw ystadegau a gynhwysir yn y cyhoeddiad neu'r deunydd hwnnw yn gywir neu fod y cyhoeddiad neu'r deunydd wedi'i fwydo'n briodol fel arall gan yr ystadegau y gellir caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau;
d
galluogi un o'r canlynol i gyflwyno sylwadau cyhoeddus mewn cysylltiad â chyhoeddi'r ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt–
i
un o Weinidogion y Goron;
ii
pennaeth adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig;
iii
aelod o Weithrediaeth yr Alban;
iv
un o Is-weinidogion yr Alban;
v
un o Weinidogion Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon;
vi
aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon a benodwyd yn Is-weinidog o dan adran 19 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 19986;
vii
unigolyn sy'n cynghori unrhyw rai o'r rhai a grybwyllir yn is-baragraffau (i) i (vi).
dd
galluogi corff cyhoeddus, swyddfa gyhoeddus neu ddeiliad swydd o'r fath, y mae'r ystadegau yn berthnasol i'w swyddogaethau, i gyflwyno sylwadau cyhoeddus ar yr ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt;
e
galluogi corff sy'n cynrychioli corff cyhoeddus, swyddfa gyhoeddus neu ddeiliad swydd o'r fath y mae'r ystadegau yn berthnasol i'w swyddogaethau i gyflwyno sylwadau cyhoeddus ar yr ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt;
f
cyflawni unrhyw ddiben arall os yw'r person cyfrifol o'r farn bod budd y cyhoedd yn cael ei ateb gryn dipyn yn well drwy roi caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau (yn hytrach na thrwy beidio â'i roi) at y diben hwnnw gan roi sylw i unrhyw niwed y byddai gweld yr ystadegau cyn eu rhyddhau yn debyg o'i beri i'r canlynol—
i
ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol yn gyffredinol; neu
ii
ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol penodol.
2
Dim ond os yw'n fodlon bod trefniadau wedi'u gwneud i roi gwybod am yr wybodaeth ganlynol i unigolyn y mae'n rhoi caniatâd iddo weld ystadegau cyn eu rhyddhau y caiff y person cyfrifol roi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau—
a
ar ba sail yn is-baragraff (1) y rhoddir caniatâd; a
b
gofynion paragraff 5.
3
Yr unigolion a grybwyllir yn yr is-baragraff hwn yw—
a
un o Weinidogion Cymru a benodwyd o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20067;
b
Prif Weinidog Cymru;
c
Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru;
ch
un o Ddirprwy Weinidogion Cymru a benodwyd o dan adran 50 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
d
unigolyn sy'n cynghori unrhyw rai o'r rhai a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (ch).
Caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau i'w roi i unigolion adnabyddadwy penodol2
Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau rhaid iddo roi'r caniatâd hwnnw i unigolyn adnabyddadwy penodol.
Gwybodaeth i gyd-fynd ag ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau3
Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod yr wybodaeth ganlynol yn cyd-fynd â rhyddhau'r ystadegau y mae wedi rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau–
a
yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, mai “Ystadegau Cyfrinachol” ydynt;
b
yn achos ystadegau nad ydynt yn ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, mai “Ystadegau Cyfyngedig” ydynt;
c
ym mhob achos—
i
bod caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau wedi'i roi o dan y Gorchymyn hwn;
ii
bod paragraff 5 o'r Atodlen hon yn cynnwys gofynion penodol; a
iii
manylion am sut i roi gwybod i'r person cyfrifol os caiff yr ystadegau eu datgelu neu os gallent gael eu datgelu heblaw fel y'i caniateir gan y Gorchymyn hwn.
Amseru'r cyfle i weld ystadegau4
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (6)—
a
yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, wrth roi caniatâd i weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau hynny gael eu gweld fwy na 24 awr cyn yr amser y bwriedir eu cyhoeddi;
b
yn achos ystadegau eraill, wrth roi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau hynny gael eu gweld fwy na phum diwrnod cyn y dyddiad y bwriedir eu cyhoeddi;
c
ym mhob achos rhaid i'r person cyfrifol beidio â rhoi caniatâd i'r ystadegau gael eu gweld yn gynt nag y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y mae'n rhoi caniatâd i'w gweld ar ei gyfer.
2
Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(ch), nid yw is-baragraffau (1)(a) a (b) yn gymwys.
3
Wrth roi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau caiff y person cyfrifol roi caniatâd i'w gweld yn gynt na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn is-baragraffau (1)(a) a (b) ar yr amod bod yr amodau canlynol wedi'u bodloni—
a
ei fod o'r farn bod gweld yr ystadegau yn gynt fel hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y mae'n rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau ar ei gyfer; a
b
ei fod o'r farn bod budd y cyhoedd yn cael ei ateb gryn dipyn yn well drwy roi caniatâd i weld yr ystadegau yn gynt fel hyn (yn hytrach na thrwy beidio â'i roi) gan roi sylw i unrhyw niwed y byddai gweld yr ystadegau yn gynt fel hyn yn debyg o'i beri i'r canlynol—
i
ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol yn gyffredinol; neu
ii
ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngonestrwydd ystadegau swyddogol penodol.
4
Pan fo'r person cyfrifol yn rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau yn gynt na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn is-baragraffau (1)(a) a (b) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod am y canlynol i'r Bwrdd Ystadegau8—
a
y ffaith ei fod wedi gwneud hynny;
b
enw'r ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn;
c
enw a swydd yr unigolyn y rhoddwyd caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn;
ch
o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;
d
ar ba sail ym mharagraff 1(1) y rhoddwyd caniatâd i'w gweld; ac
dd
esboniad o'r rheswm dros roi caniatâd i'w gweld yn gynt fel hyn.
5
Mae'r gofynion a nodir yn is-baragraff (4) yn gymwys mewn achosion lle mae'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(ch) fel pe na bai'r cyfyngiadau yn is-baragraff (1) yn gymwys i ganiatâd a roddir ar y sail honno.
6
Nid yw'r cyfnodau amser a grybwyllir yn is-baragraff (1) (“24 awr” a “diwrnod”) yn cynnwys unrhyw gyfnod o amser sy'n syrthio ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, neu ddiwrnod sy'n Ŵ yl Banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19719 mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Gofynion lle rhoddwyd caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau5
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo caniatâd wedi'i roi i unigolyn i weld ystadegau cyn eu rhyddhau o dan baragraff 1, neu pan fo ystadegau wedi'u datgelu i unigolyn o dan baragraff 6.
2
Heb ragfarnu paragraff 6, rhaid i'r unigolyn beidio â datgelu'r ystadegau, na'r un awgrym o'r hyn y maent yn ei gynnwys neu'r hyn y gallent ei ddangos.
3
Yn achos unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau cyn eu rhyddhau o dan baragraff 1, rhaid i'r unigolyn hwnnw ddefnyddio'r ystadegau at y diben y rhoddwyd y caniatâd ar ei gyfer yn unig.
4
Yn achos unigolyn y mae'r ystadegau wedi'u datgelu iddo o dan baragraff 6 gan berson y rhoddwyd caniatâd iddo i'w gweld cyn eu rhyddhau o dan baragraffau 1(1)(a) i (e), rhaid i'r unigolyn hwnnw ddefnyddio'r ystadegau er mwyn rhoi cymorth gweinyddol neu dechnegol i'r person hwnnw yn unig.
5
Rhaid i'r unigolyn gymryd camau rhesymol tuag at sicrhau—
a
na chaiff yr ystadegau eu datgelu heblaw fel y'i caniateir gan y Gorchymyn hwn; a
b
na ddatgelir yr un awgrym o'r hyn y maent yn ei gynnwys neu'r hyn y gallent ei ddangos.
6
Rhaid i'r unigolyn beidio â defnyddio'r ystadegau i sicrhau enillion personol.
7
Os oes gan yr unigolyn sail resymol dros gredu–
a
bod yr ystadegau wedi'u datgelu heblaw fel y'i caniateir gan y Gorchymyn hwn; neu
b
bod awgrym o'r hyn y mae'r ystadegau'n ei gynnwys, neu o'r hyn y gallent ei ddangos, wedi'i ddatgelu; neu
c
bod yna berygl y ceir datgeliad a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b),
rhaid i'r unigolyn gydymffurfio ag is-baragraff (8).
8
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid i'r unigolyn gymryd pob cam rhesymol ymarferol i roi gwybod i'r person cyfrifol am y datgeliad neu'r datgeliad posibl.
9
Rhaid i'r unigolyn beidio â cheisio newid fformat, cynnwys nac amser cyhoeddi'r ystadegau, ac eithrio yn unol ag is-baragraff (10).
10
Os bydd yr unigolyn yn gweld gwallau yn fformat, cynnwys neu amser cyhoeddi'r ystadegau, neu os yw'n dymuno cyflwyno sylwadau arnynt, caiff yr unigolyn fynegi hynny i'r person cyfrifol.
Datgelu ystadegau er mwyn sicrhau cymorth gweinyddol neu dechnegol6
Caiff unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar un o'r seiliau ym mharagraffau 1(1)(a) i (e) ddatgelu i unigolyn adnabyddadwy penodol arall yr ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld iddo mewn perthynas â hwy, ar yr amod bod angen eu datgelu er mwyn galluogi'r unigolyn arall hwnnw i roi cymorth gweinyddol neu dechnegol iddo yn unig.
Hysbysu'r Bwrdd Ystadegau pan roddir caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(f)7
Pan roddir caniatâd i weld ystadegau cyn eu rhyddhau ar y sail ym mharagraff 1(1)(f) rhaid i'r person cyfrifol roi gwybod i'r Bwrdd Ystadegau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol am y canlynol—
a
enw'r ystadegau y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;
b
enw a swydd yr unigolyn y rhoddwyd y caniatâd i'w gweld iddo;
c
o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld i'r unigolyn hwnnw; ac
ch
esboniad o'r rheswm dros roi caniatâd i'w gweld.
Torri gofynion paragraff 58
Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd o dan y Gorchymyn hwn neu beidio i unigolyn weld ystadegau cyn eu rhyddhau, rhaid i'r person cyfrifol gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth y mae'n ymwybodol ohoni sydd, yn ei farn ef, yn awgrymu unrhyw rai o'r canlynol—
a
bod yr unigolyn wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff 5, neu y gallai fod wedi methu â chydymffurfio â hwy o'r blaen;
b
bod unigolyn arall y mae'r unigolyn hwnnw wedi datgelu ystadegau iddo o'r blaen o dan baragraff 6 wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff 5, neu y gallai fod wedi methu â chydymffurfio â hwy;
c
bod caniatâd blaenorol a roddwyd i'r unigolyn hwnnw o dan y Gorchymyn hwn i weld ystadegau cyn eu rhyddhau wedi arwain at ddatgelu'r ystadegau hynny mewn modd na roddwyd caniatâd ar ei gyfer gan y Gorchymyn hwn, neu y gallai fod wedi arwain at hynny;
ch
bod caniatâd blaenorol a roddwyd i'r unigolyn hwnnw o dan y Gorchymyn hwn i weld ystadegau cyn eu rhyddhau wedi arwain at ddatgelu awgrym o'r hyn yr oedd yr ystadegau hynny'n ei gynnwys neu o'r hyn y gallent fod wedi'i ddangos neu y gallai fod wedi arwain at hynny.
Cadw cofnodion9
1
O ran unrhyw ystadegau y mae'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd o dan y Gorchymyn hwn i'w gweld cyn eu rhyddhau, rhaid i'r person cyfrifol wneud cofnodion o'r canlynol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—
a
enw'r ystadegau;
b
enw, swydd a manylion cysylltu unrhyw unigolyn y mae wedi rhoi caniatâd i'w gweld iddo;
c
o ba ddyddiad ac amser y rhoddwyd caniatâd i'w gweld i'r unigolyn hwnnw;
ch
ar ba sail ym mharagraffau 1(1)(a) i (f) y rhoddwyd caniatâd i'w gweld;
d
pan fo caniatâd i'w gweld wedi'i roi ar y sail ym mharagraff 1(1)(f), y diben a oedd i'w gyflawni drwy roi'r caniatâd;
dd
unrhyw drafodaethau neu ohebiaeth gyda'r unigolyn ynghylch fformat, cynnwys neu amser cyhoeddi'r ystadegau;
e
unrhyw wybodaeth y mae wedi'i hysbysu i'r Bwrdd Ystadegau o dan baragraffau 4(4) neu 7;
f
unrhyw wybodaeth a roddwyd iddo o dan baragraff 5(8), ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy;
ff
unrhyw wybodaeth a gafodd am fethiant posibl gan unrhyw unigolyn i gydymffurfio â gofynion paragraff 5, ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy;
g
unrhyw wybodaeth a gafodd am unrhyw ddatgeliad o'r ystadegau a oedd heb ei ganiatáu gan y Gorchymyn hwn, ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy; ac
ng
unrhyw wybodaeth a gafodd am unrhyw ddatgeliad sy'n rhoi awgrym o'r hyn yr oedd yr ystadegau'n ei gynnwys neu o'r hyn y gallent fod wedi'i ddangos, ynghyd â manylion pa bryd y rhoddwyd yr wybodaeth honno iddo a chan bwy.
2
Rhaid i'r cofnodion gael eu cadw gan y person cyfrifol am gyfnod o nid llai na saith mlynedd o ddyddiad cyhoeddi'r ystadegau y maent yn ymwneud â hwy.
Cyhoeddi10
1
Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau cyhoeddi bob blwyddyn, ar 1 Ionawr neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw, restr o enwau'r ystadegau y mae wedi rhoi caniatâd i'w gweld cyn eu rhyddhau yn y deuddeng mis yn union cyn y dyddiad hwnnw.
2
Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod trefniadau wedi'u gwneud tuag at sicrhau bod ystadegau y mae'n berson cyfrifol ar eu cyfer, ac y mae'r Atodlen hon yn gymwys iddynt, yn cael eu trin yn unol â'r Gorchymyn hwn.
3
Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau cyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, esboniad o'r trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (2).
4
Os diwygir y trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (2), rhaid i'r person cyfrifol sicrhau cyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r diwygiadau gael eu gwneud, esboniad o'r trefniadau diwygiedig.
Darparu gwybodaeth11
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i'r person cyfrifol, os caiff gais am wybodaeth sy'n bodloni'r meini prawf yn is-baragraff (2), roi'r wybodaeth honno i'r ceisydd heb fod yn hwyrach na'r ugeinfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y caiff y cais.
2
Y meini prawf yw bod yr wybodaeth wedi'i chynnwys mewn cofnodion y mae'r person cyfrifol wedi'u gwneud at ddibenion unrhyw rai o baragraffau 9(1)(a) i (e) ac nid yn fanylion cysylltu sydd wedi'u cofnodi at ddibenion paragraff 9(1)(b).
3
At ddibenion y paragraff hwn, ystyr cais yw cais sydd—
a
mewn ysgrifen;
b
yn dod i law ar ffurf ddarllenadwy;
c
yn datgan enw'r ceisydd a chyfeiriad gohebu; ac
ch
yn rhoi disgrifiad digonol o'r wybodaeth a geisir.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)