Search Legislation

Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi rheolau ac egwyddorion sydd i'w dilyn mewn perthynas â chaniatáu i bobl benodol weld mathau penodol o ystadegau ymlaen llaw cyn eu cyhoeddi'n swyddogol. Cyfeirir at y math hwn o gyfle i weld ystadegau yn y Gorchymyn hwn, ac yn y Ddeddf y mae'r Gorchymyn yn cael ei gwneud odani, fel gweld ystadegau cyn eu rhyddhau.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adran 11 o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (p.18) (“y Ddeddf”). Mae'r adran honno'n caniatáu i'r “awdurdod priodol” ddarparu, at ddibenion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau o dan adran 10 o'r Ddeddf, ar gyfer rheolau ac egwyddorion ynglŷn â chaniatáu i ystadegau swyddogol gael eu gweld cyn eu rhyddhau.

Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau o dan adran 10 o'r Ddeddf yn cael ei baratoi a'i gyhoeddi gan y Bwrdd Ystadegau (“The Statistics Board”). Effaith adran 11(1) o'r Ddeddf yw na chaniateir i'r Cod ei hun ymdrin â rheolau ac egwyddorion ynglŷn â chaniatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau. Mae'r rheolau a'r egwyddorion hynny i'w pennu drwy i'r awdurdod priodol wneud Gorchymyn o dan adran 11.

Mae adran 11(6)(c) o'r Ddeddf yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw'r “awdurdod priodol” o ran ystadegau swyddogol sydd yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru. Diffinnir “ystadegau swyddogol” yn adran 6(1) o'r Ddeddf a diffinnir “ystadegau datganoledig Cymru” yn adran 66(3).

Diffinnir “gweld ystadegau cyn eu rhyddhau” o ran ystadegau swyddogol yn adran 11(8) ac mae'n golygu cael gweld yr ystadegau yn eu ffurf derfynol cyn eu cyhoeddi.

Mae'r rheolau a'r egwyddorion y darperir ar eu cyfer gan y Gorchymyn wedi'u nodi yn yr Atodlen. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn darparu, yn ddarostyngedig i'r eithriad a nodir yn erthygl 3(4), fod yr Atodlen yn gymwys i ystadegau sy'n bodloni pob un o'r meini prawf, sef eu bod yn ystadegau swyddogol, yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru a naill ai wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol neu'n disgwyl penderfyniad a ydynt wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol neu beidio. Mae'r eithriad yn erthygl 3(4) yn gymwys pan gaiff ystadegau eu rhyddhau dim ond er mwyn i'r cyhoeddiad y maent i'w cyhoeddi ynddo gael ei gynhyrchu.

Mae gan y Bwrdd Ystadegau y swyddogaeth o dan adran 12(2) o'r Ddeddf o ddynodi ystadegau swyddogol yn Ystadegau Gwladol. Cafodd y Bwrdd ei sefydlu gan y Ddeddf. Cyn i'r Bwrdd gael ei sefydlu a chyn i adran 12 gael ei chychwyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol oedd yn dynodi ystadegau swyddogol yn Ystadegau Gwladol. Mae adran 12(8) o'r Ddeddf yn darparu bod ystadegau swyddogol a ddynodwyd yn Ystadegau Gwladol cyn i adran 12 gael ei chychwyn i'w hystyried at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf fel pe baent wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol o dan adran 12(2).

Mae paragraff 1(1) o'r Atodlen yn darparu, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn, y caiff y person cyfrifol ganiatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau dim ond i'r graddau y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol rhoi caniatâd i'w gweld i unigolyn adnabyddadwy penodol er mwyn cyflawni diben sy'n un o'r dibenion a grybwyllir ym mharagraffau 1(1)(a) i (f). Mae'r “person cyfrifol” wedi'i ddiffinio yn adran 67 o'r Ddeddf.

Mae paragraff 1(2) yn darparu bod rhaid i'r person cyfrifol fod wedi'i fodloni, cyn caniatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau, fod trefniadau wedi'u gwneud i roi gwybod i'r unigolyn y mae'n caniatáu iddo weld yr ystadegau cyn eu rhyddhau ar ba sail ym mharagraffau 1(1)(a) i (f) y rhoddir y caniatâd iddo, a'r gofynion a nodir ym mharagraff 5 y bydd yr unigolyn yn dod odanynt.

Mae paragraff 1(3) yno at ddibenion ystyr paragraffau 1(1)(a) i (c).

Mae paragraff 2 yn darparu bod rhaid i'r person cyfrifol, pan fo'n caniatáu i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau, roi'r caniatâd i unigolyn penodol a all gael ei adnabod. Er enghraifft, byddai caniatâd i “Brif Weinidog Cymru” yn bodloni'r gofyniad, ond fyddai caniatâd i “Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru” ddim yn ei fodloni.

Mae paragraff 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau, pan fo ystadegau yn cael eu rhyddhau ac y mae wedi rhoi caniatâd iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau, fod rhaid i'r wybodaeth a nodir ym mharagraffau 3(a) i (c) gyd-fynd â'r ystadegau.

Yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau ym mharagraff 4, mae paragraffau 4(1)(a) a (b) yn gosod terfynau uchaf o ran pa mor bell ymlaen llaw cyn eu cyhoeddi y caiff y person cyfrifol ryddhau ystadegau o dan y Gorchymyn.

Yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad, rhaid i'r ystadegau beidio â chael eu rhyddhau fwy na 24 awr cyn yr amser y bwriedir eu cyhoeddi. Diffinnir “ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad” yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.

Yn achos ystadegau nad ydynt yn sensitif i'r farchnad, rhaid iddynt beidio â chael eu rhyddhau yn gynt na'r pumed diwrnod cyn y dyddiad y bwriedir eu cyhoeddi.

Effaith paragraff 4(1)(c) yn achos ystadegau sy'n sensitif i'r farchnad ac ystadegau nad ydynt yn sensitif i'r farchnad yw bod rhaid peidio â'u rhyddhau yn gynt na'r hyn y mae'r person cyfrifol o'r farn ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y caniateir iddynt gael eu gweld ar ei gyfer cyn eu rhyddhau.

Mae paragraff 4(6) yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r adeg gynharaf y caniateir i ystadegau gael eu rhyddhau. Effaith y paragraff yw bod dyddiau penodol, megis dyddiau'r penwythnos, i'w hanwybyddu wrth gyfrifo.

Mae paragraff 4(2) yn anghymhwyso'r terfynau amser uchaf pan roddir caniatâd o dan baragraff 1(1)(ch) i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau.

Effaith paragraff 4(3) yw caniatáu i'r person cyfrifol ryddhau ystadegau yn gynt na'r cyfnodau hiraf y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 4(1)(a) a (b). Er hynny, dim ond os yw'r amodau a nodir ym mharagraffau 4(3)(a) a (b) wedi'u bodloni y caiff y person cyfrifol wneud hyn.

Mae paragraff 4(4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol hysbysu'r Bwrdd Ystadegau, a rhoi gwybodaeth benodol i'r Bwrdd, os bydd y person cyfrifol yn rhoi caniatâd i ystadegau gael eu gweld yn gynt na'r cyfnodau hiraf y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 4(1)(a) a (b).

Effaith paragraff 4(5), os bydd y person cyfrifol yn rhoi caniatâd o dan baragraff 1(1)(ch) i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau, gan ganiatáu iddynt gael eu gweld yn gynt na'r cyfnodau hiraf y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 4(1)(a) a (b), yw bod rhaid i'r person cyfrifol gydymffurfio â'r gofyniad ynghylch hysbysu ym mharagraff 4(4), er bod paragraff 4(2) wedi anghymhwyso'r cyfnodau hiraf ym mharagraffau 4(1)(a) a (b) mewn achosion lle mae caniatâd wedi'i roi o dan baragraff 1(1)(ch).

Mae paragraff 5 yn gosod gofynion ar unigolion y mae'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd iddynt weld ystadegau cyn eu rhyddhau, ac ar y rhai y mae ystadegau wedi'u datgelu iddynt o dan baragraff 6 (datgelu er mwyn i gymorth gweinyddol a thechnegol gael ei roi). Mae'r gofynion hyn yn ymwneud yn bennaf â gwahardd rhagor o ddatgelu ar yr ystadegau, cyfyngu ar sut y caniateir eu defnyddio, ei gwneud yn ofynnol i gamau rhesymol gael eu cymryd i warchod eu diogelwch a'i gwneud yn ofynnol i bob cam rhesymol ymarferol gael ei gymryd i hysbysu'r person cyfrifol os caiff y diogelwch hwnnw ei dorri.

Mae paragraff 6 yn caniatáu i unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau cyn cael eu rhyddhau o dan un o baragraffau 1(1)(a) i (e) ddatgelu'r ystadegau hynny i unigolyn sy'n rhoi cymorth gweinyddol neu dechnegol iddo. Er hynny, rhaid i'r datgeliad fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi i'r cymorth hwnnw gael ei roi, a chael ei wneud at y diben hwnnw yn unig. Ni chaniateir i unigolyn y rhoddwyd caniatâd iddo weld ystadegau o dan baragraff 1(1)(f) ddatgelu'r ystadegau eto gan ddefnyddio'r ddarpariaeth hon.

Mae paragraff 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol hysbysu'r Bwrdd Ystadegau, a rhoi gwybodaeth benodol i'r Bwrdd, pan fo'r person cyfrifol wedi rhoi caniatâd o dan baragraff 1(1)(f) i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau.

Mae paragraff 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol, wrth iddo ystyried caniatáu i unigolyn penodol weld ystadegau cyn eu rhyddhau, gymryd i ystyriaeth yn ei benderfyniad unrhyw dystiolaeth y mae'n ymwybodol ohoni sydd, yn ei farn ef, yn dangos unrhyw rai o'r materion a nodir ym mharagraffau 8(a) i (ch). Mae'r materion yn ymwneud â methu â chydymffurfio o'r blaen â gofynion paragraff 5, a datgelu ystadegau neu eu cynnwys o'r blaen.

Mae paragraff 9(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol wneud cofnodion, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ynghylch y caniatadau y maent wedi'u rhoi i ystadegau gael eu gweld cyn eu rhyddhau. Rhaid i'r cofnodion hyn gynnwys gwybodaeth benodol fel y'i nodir ym mharagraffau 9(1)(a) i (ng).

Mae paragraff 9(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol gadw'r cofnodion am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad cyhoeddi'r ystadegau y maent yn ymwneud â hwy.

Mae paragraff 10(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau y cyhoeddir bob blwyddyn, ar 1 Ionawr neu cyn gynted ar ôl y dyddiad hwnnw ag y bo'n rhesymol ymarferol, restr o enwau'r ystadegau y mae wedi caniatáu iddynt gael eu gweld cyn eu rhyddhau yn ystod y deuddeng mis yn union cyn y dyddiad hwnnw.

Mae paragraff 10(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau bod trefniadau wedi'u gwneud tuag at sicrhau bod ystadegau y mae'n berson cyfrifol ar eu cyfer, ac y mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt, yn cael eu trin yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Mae paragraffau 10(3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cyfrifol sicrhau y cyhoeddir esboniad o'r trefniadau a grybwyllir ym mharagraff 10(2), a bod yr esboniad a gyhoeddir yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau yn y trefniadau hynny.

Mae paragraff 11(1) yn gosod gofyniad ar y person cyfrifol i ddarparu gwybodaeth, o fewn terfyn amser penodedig, mewn ymateb i geisiadau penodol am wybodaeth benodol a geir yn y cofnodion y mae wedi'u gwneud at ddibenion paragraff 9. Er mwyn i'r rhwymedigaeth hon ar y person cyfrifol godi, rhaid i'r wybodaeth y gofynnir amdani fodloni'r meini prawf a nodir ym mharagraff 11(2) a rhaid i'r cais fodloni'r meini prawf a nodir ym mharagraff 11(3).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources