Gorchymyn Cynlluniau Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub (Amrywio) (Cymru) 2009

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2849 (Cy.249)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn Cynlluniau Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub (Amrywio) (Cymru) 2009

Gwnaed

24 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Hydref 2009

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 4(4), 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 4(5) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r awdurdodau penodedig ac unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol ganddynt(3) ac yn unol ag adran 4(7)(a) o'r Ddeddf honno maent wedi sicrhau fod pob awdurdod cyfunol a phob awdurdod priodol arall yn cytuno â gwneud y Gorchymyn hwn(4):

(2)

Mae pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Mae adran 4(5) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn pennu'r cyrff a'r personau y mae'n rhaid ymgynghori â hwy.

(4)

Mae adran 4(6) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol bod ymchwiliad yn cael ei gynnal cyn bod gorchymyn yn cael ei wneud o dan adran 4(4) yn amrywio neu'n dirymu cynllun cyfuno. Mae adran 4(7) yn disgrifio dan ba amgylchiadau y gellir osgoi ymchwiliad, ac un ohonynt yw fod y cyrff a bennir yn adran 4(7)(a) yn cytuno â'r dirymiad neu'r amrywiad.