xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2880 (Cy.253)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2009

Gwnaed

27 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Hydref 2009

Yn dod i rym

20 Tachwedd 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod y cyfnod yr oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Tachwedd 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.—(1Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3) wedi'u diwygio'n unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), yn lle paragraff (15) rhodder y canlynol—

(15) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a) it is a defence to prove that—

(a)in the case of—

(i)wine in which lysozyme is used, or in which albumin (produced from egg) or a milk (casein) product has been used as a fining agent, the food concerned was sold before 31 December 2010 or marked or labelled before that date, or

(ii)any other food, the food concerned was sold before 31 May 2009 or marked or labelled before that date; and

(b)the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2009(4) had not been in operation when the food was sold..

Dirymu

3.  Mae rheoliad 2(6) o Reoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008(5) wedi ei ddirymu.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r prif Reoliadau yn rhychwantu Prydain Fawr gyfan.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru y diwygiad a wnaed i Gyfarwyddeb 2007/68/EC (OJ Rhif L310, 28.11.2007, t.11) gan Reoliad y Comisiwn Rhif 415/2009//EC (OJ Rhif L125, 21.05.2009, t.52). Mae'r Gyfarwyddeb hon ei hun yn diwygio Atodiad IIIa i Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cynhwysion bwyd penodol (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29). Y cynhwysion o dan sylw yw'r rhai sy'n debyg o achosi adwaith alergaidd mewn rhai defnyddwyr.

3.  Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r prif Reoliadau o ran y gofynion labelu ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig, gan gynnwys esemptiadau labelu ar gyfer ffurfiau penodol ar y cynhwysion hynny, a'r rheini'n ffurfiau a broseswyd, drwy estyn o 31 Mai 2009 i 31 Rhagfyr 2010 y cyfnod trosiannol ar gyfer defnyddio lysosym sy'n deillio o wyau ac ar gyfer albwmin (a gynhyrchwyd o wyau) neu gynhyrchion llaeth (casein) fel asiantau diwaddodi mewn gwin ar gyfer gwinoedd sy'n cael eu marcio, eu labelu neu eu gwerthu cyn y dyddiad hwnnw.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2900. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21, yn ôl eu trefn, o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990.

Mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd, yn ôl eu trefn, yn ymwneud â bwyd ac iechyd yng Nghymru, ag iechyd yn Lloegr ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) yn arferadwy bellach yn Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Cafodd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Cafodd y swyddogaethau hynny, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran yr Alban, eu trosglwyddo i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) fel y'i darllenir gydag adran 40(2) o Ddeddf 1999.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau, sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad, yn ôl Penderfyniad y Cyngor 1999/468 mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad yn ôl y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu– Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(3)

O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2008/1268 (Cy.128). Mewnosodwyd rheoliadau 13(8)(c) a 34B a'r Atodlen gysylltiedig, sef Atodlen AA1, gan O.S. 2004/3022 (Cy.261). Diwygiwyd Rheoliad 34B gan O.S. 2005/2835 (Cy.200); Diwygiwyd Atodlen AA1 gan O.S. 2007/3379 (Cy.301) a chan O.S. 2008/1268 (Cy.128). Mewnosodwyd paragraff (13) o reoliad 50 gan O.S. 2005/1309 (Cy.91), paragraff (14) o'r rheoliad hwnnw gan O.S. 2007/3379 (Cy.301) a pharagraff (15) o'r rheoliad hwnnw gan O.S. 2008/1268 (Cy.128).