Offerynnau Statudol Cymru
2009 Rhif 2980 (Cy.259)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed
10 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
15 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru, y breiniwyd ynddynt erbyn hyn(1) y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), (1(A), (2), (3) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Rhagfyr 2009.
Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru 2006(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol” (“seed potatoes of a conservation variety”) yw unrhyw amrywiaeth o datws hadyd a dderbynnir gan unrhyw Aelod-wladwriaeth i'w gatalog cenedlaethol o amrywogaethau yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol gogyfer â derbyn rhywogaethau ac amrywiadau tiriol amaethyddol sydd wedi'u haddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac sydd dan fygythiad drwy erydiad genetig ac ar gyfer marchnata had a thatws hadyd o'r rhywogaethau ac amrywiadau tiriol hynny;”.
(3) Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder—
“Marchnata amrywiaethau cadwriaethol
4A.—(1) Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol oni bai—
(a)bod yr amrywiaeth wedi'i rhestru yn y Rhestr Genedlaethol o amrywiaethau o rywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywiaethau) 2001; a
(b)bod y tatws hadyd hynny wedi'u cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.
(2) Rhaid i berson sy'n bwriadu cynhyrchu tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol roi i Weinidogion Cymru, cyn gwneud hynny, ac yn y ffurf a'r modd sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, fanylion ysgrifenedig o faint a lleoliad yr ardal sydd i'w defnyddio i gynhyrchu'r had hwnnw.
(3) At ddibenion erthyglau 14 a 15(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC caiff Gweinidogion Cymru ddynodi uchafswm y tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol y gellir eu marchnata mewn unrhyw dymor cynhyrchu penodol; a gellir pennu gwahanol uchafsymiau ar gyfer gwahanol bersonau neu wahanol ddosbarthiadau o bersonau.
(4) Rhaid i swm y tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol a gynhyrchir gan berson beidio â bod yn fwy nag unrhyw uchafswm a bennir ym mharagraff (3) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol roi i Weinidogion Cymru, os gofynnant yn ysgrifenedig am hynny, fanylion ysgrifenedig ynghylch swm ac amrywiaeth y tatws hadyd a roddwyd ar y farchnad yn ystod pob tymor cynhyrchu.”.
(4) Yn Rhan 1 o Atodlen 2, ar ôl paragraff 8, mewnosoder—
“8A. Yn achos tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol, yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 8, rhaid i label swyddogol gynnwys yr wybodaeth bellach sy'n ofynnol dan Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2009
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2929 (Cy. 264)) (y Prif Reoliadau) i roi ar waith, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol er mwyn derbyn rhywogaethau ac amrywiadau tiriol amaethyddol sydd wedi'u haddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac sydd dan fygythiad drwy erydiad genetig ac ar gyfer marchnata had a thatws hadyd perthynol i'r rhywogaethau a'r amrywiadau tiriol hynny, i'r graddau y maent yn ymwneud â chynhyrchu a marchnata hadau (OJ Rhif L 162, 21.6.08, t.13).
Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod y darpariaethau canlynol yn y Prif Reoliadau: diffiniad o “tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol” yn rheoliad 2; rheoliad 4A sy'n dynodi rhai gofynion penodol mewn perthynas â marchnata tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol; a pharagraff 8A o Atodlen 2, sy'n darparu ar gyfer y gofynion labelu yn Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC.
Mae torri unrhyw ddarpariaeth a gyflwynir yn y Rheoliadau hyn, yn dramgwydd o dan adran16(7)(b) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 (p.14).
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
Yn rhinwedd O.S. 1978/272, O.S. 1999/672 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006; mae'r swyddogaethau bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru.
1964 p.14: diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi, O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”.
O.S. 2006/2929 (Cy.264) y mae diwygiad iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.