Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009
2009 Rhif 3052 (Cy.268)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, dyddiedig Chwefror 2009 ar adolygiad a wnaed gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar ffiniau cymunedau, ynghyd â chynigion a luniwyd gan y Comisiwn gogyfer â'r rheiny.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn heb addasiadau.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru2: