(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) a adroddodd ym mis Chwefror 2009 ar adolygiad o ffiniau a wnaed gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
Mae printiau o fapiau yn dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol.