2009 Rhif 3147 (Cy.274)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed Rhagfyr

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhagfyr

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi1.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19922

1

Diwygier Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19922 fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010.

2

Yn lle Atodlen 4, rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Brian GibbonsY Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliad 2

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

54,106

Bridgend

105,734

Caerphilly

133,407

Carmarthenshire

142,757

Cardiff

257,295

Ceredigion

64,378

Conwy

89,672

Denbighshire

77,402

Flintshire

118,412

Gwynedd

94,009

Isle of Anglesey

54,831

Merthyr Tydfil

43,312

Monmouthshire

69,544

Neath Port Talbot

108,821

Newport

107,931

Pembrokeshire

93,178

Powys

105,487

Rhondda Cynon Taf

183,191

Swansea

183,388

Torfaen

71,054

Vale of Glamorgan (The)

96,769

Wrexham

104,557

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).