2009 Rhif 3254 (Cy.283)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru i unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol4 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.