(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 ar sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L269, 14.10.2009, t.9) (“Rheoliad y Comisiwn”). Mae Rheoliad y Comisiwn yn diddymu ac yn disodli Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC ar sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwyd at ddefnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/6/EC sy'n rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol (OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.31).LL+C
2. Mae'r Rheoliadau hyn—LL+C
(a)yn darparu bod person sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad y Comisiwn a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));
(b)yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 3(2));
(c)yn pennu'r awdurdod gorfodi (rheoliad 3(3));
(ch)yn darparu ar gyfer cymhwysiad darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);
(d)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3111 (Cy.231)) (rheoliad 5); ac
(dd)yn dirymu Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2939 (Cy. 280)) (rheoliad 6).
3. Mae Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn yn cyfeirio at yr awdurdodau cymwys y cyfeirir atynt yn Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer defnydd maethol neilltuol (OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21). Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)) yn darparu yn rheoliad 3 mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys o ran bwyd at ddefnydd maethol neilltuol a weithgynhyrchwyd yng Nghymru neu a fewnforiwyd i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.LL+C