2009 Rhif 3254 (Cy.283)
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru i unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol4 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwynI11
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.
DehongliI22
1
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn a bennir yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y disgrifir y pwnc y mae'n ymdrin ag ef yng Ngholofn 2 o'r Atodlen;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
3
Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
4
Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli—
a
drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19846, i awdurdod iechyd porthladd; neu
b
drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 19367, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,
dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu priodoli felly iddo.
5
Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Tramgwyddau, cosbau a gweithredu a gorfodiI33
1
Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau penodedig yn euog o dramgwydd.
2
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
3
Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r DdeddfI44
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
a
adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
b
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
c
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)8, fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
ch
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
d
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
dd
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
e
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)9, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
f
adran 35(2) a (3)10, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);
ff
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
g
adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)11; ac
ng
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygio Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005I55
1
Mae Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 200512 wedi eu diwygio'n unol â'r paragraffau canlynol.
2
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15/EC”, rhodder y diffiniad canlynol—
ystyr “Rheoliad 953/2009” (“Regulation 953/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;
3
Yn rheoliad 5 (eithriadau rhag y gwaharddiadau), yn lle is-baragraff (c) o baragraff (2), rhodder yr is-baragraff canlynol—
c
tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Rheoliad 953/2009 at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliad hwnnw;
DirymuI66
Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 200213 wedi eu dirymu.
I7YR ATODLENDarpariaethau Penodedig
Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 2(1) | O ran y sylweddau sy'n perthyn i'r categorïau sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn, gofyniad mai dim ond y rhai o blith y sylweddau hynny sydd wedi eu rhestru yn yr Atodiad hwnnw, ac sy'n cydymffurfio â'r manylebau perthnasol fel y bo'n angenrheidiol, sydd i'w hychwanegu at ddibenion maethol penodol wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a'r Cyngor am fwydydd sydd wedi eu bwriadu at ddefnydd maethol neilltuol14. |
Erthygl 3(1) | Gofyniad y bydd y defnydd ar sylweddau a ychwanegir at ddibenion maethol penodol yn arwain at weithgynhyrchu cynhyrchion diogel sy'n bodloni anghenion maethol neilltuol y personau y maent wedi eu bwriadu ar eu cyfer, fel a gadarnheir drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol. |
Erthygl 3(2) | Gofyniad y bydd y gweithgynhyrchydd neu, pan fo'n briodol, y mewnforiwr, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dangos y gwaith gwyddonol a'r data sy'n cadarnhau bod y defnydd ar y sylweddau yn cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn. Os yw gwaith a data o'r fath wedi eu cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, bydd cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw yn ddigon. |
Erthygl 4(2) | Gofyniad y bydd y meini prawf ar burdeb, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ac sy'n gymwys i'r sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn pan fônt yn cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion nad ydynt yn rhai sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn, yn gymwys hefyd i'r sylweddau hynny pan fônt yn cael eu defnyddio at ddibenion sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn. |
Erthygl 4(3) | Gofyniad, yn achos sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn ac nad oes meini prawf ar burdeb wedi eu pennu ar eu cyfer drwy ddeddfwriaeth Gymunedol, a hyd nes y bydd manylebau o'r fath wedi eu mabwysiadu, y bydd y meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ac a argymhellir gan gyrff rhyngwladol yn gymwys. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Atod. mewn grym ar 1.1.2010, gweler rhl. 1