(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 ac Atodlenni 13 a 14 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn sefydlu gweithdrefn orfodol ar gyfer adolygu'r amodau y bydd hen ganiatadau cynllunio mwynau yn ddarostyngedig iddynt. Mae ceisiadau am adolygiadau yn cael eu gwneud i'r awdurdodau perthnasol ar gyfer cynllunio mwynau (“ceisiadau AHGM”) a chaniateir iddynt fod yn destun atgyfeiriad neu apêl at Weinidogion Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, o ran Cymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ynghylch asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol am yr amgylchedd (O.J. Rhif L 175, 5.7.1985, t. 40), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC (O.J. Rhif L 73, 14.3.1997, t. 5) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2003/35/EC (OJ Rhif L 156, 25.6.2003, t. 17) (“y Gyfarwyddeb”) o ran ceisiadau AHGM a gyflwynwyd cyn 15 Tachwedd 2000 ac sydd, ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, i'w penderfynu gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“ceisiadau AHGM amhenderfynedig”).

Mae'r Gyfarwyddeb wedi ei gweithredu, o ran ceisiadau AHGM yng Nghymru a gyflwynwyd ar ôl 15 Tachwedd 2000, gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293), fel y'u haddaswyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2000 (2000/2867) (“y prif Reoliadau”).

Mae'r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gwyro o ran rhai pethau oddi ar y ddarpariaeth a wnaed gan y prif Reoliadau. Crynhoir y prif wahaniaethau isod.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cyflwyno gweithdrefn i ganiatáu i awdurdodau cynllunio mwynau i estyn y cyfnodau amser statudol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaethau sy'n cael eu gosod gan y Rheoliadau, yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo bod ceisiadau yn cael eu hatgyfeirio atynt er mwyn iddynt hwy benderfynu arnynt ac adennill costau oddi wrth awdurdodau cynllunio mwynau mewn achosion penodol.

Mae Rhan 2 yn barnu'n awtomatig fod pob cais AHGM amhenderfynedig yn gais AEA, yn ddarostyngedig i gyfnod o 3 wythnos y gall ceisydd ofyn am benderfyniad sgrinio oddi wrth Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad cwmpasu gael ei wneud mewn cysylltiad â phob cais AHGM ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad amgylcheddol (“DA”) gael ei gyflwyno ar ffurf drafft i'w wirio cyn ymgynghori.

Mae Rhan 4 yn caniatáu i awdurdodau cynllunio mwynau ac i Weinidogion Cymru alw am wybodaeth bellach neu dystiolaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw wybodaeth o'r fath yn mynd drwy broses gwirio cyn ymgynghori. Mae'r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdodau cynllunio mwynau a Gweinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i unrhyw adroddiadau perthnasol neu gyngor perthnasol y byddant wedi eu cael mewn perthynas â cheisiadau AEA cyn i'r Rheoliadau ddod i rym.

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr, awdurdodau cynllunio mwynau a Gweinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw hysbysiadau ffurfiol a roddir o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 7 yn ymdrin ag atal gorchmynion datblygu mwynau a gorchmynion gwahardd mwynau. Pan fo ceisydd, apelydd neu weithredwr yn methu â chydymffurfio â'r rhwymedigaethau a osodir gan y Rheoliadau, bydd datblygiad mwynau a awdurdodwyd drwy'r caniatâd neu'r caniatadau cynllunio sy'n destun cais AEA wedi ei atal. Pan fo ataliad yn weithredol o dan y Rheoliadau, mae'r Rhan hon yn darparu bod effaith yr ataliad hwnnw yn parhau hyd nes y cydymffurfir â'r holl rwymedigaethau perthnasol.

Mae'r Rhan hon hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio mwynau i ystyried a ddylent arfer eu swyddogaethau i wneud gorchmynion gwahardd o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mewn achosion lle mae datblygiad mwynau wedi ei atal am ddwy flynedd ac na chydymffurfiwyd eto â rhwymedigaethau perthnasol o dan y Rheoliadau hyn. At ddibenion y ddyletswydd hon, mae'r Rhan hon yn addasu Atodlen 9 i Ddeddf 1990 fel bod rhaid i awdurdodau cynllunio mwynau ragdybio bod datblygiad mwynau wedi peidio'n barhaol ar ôl ataliad o ddwy flynedd os cânt eu bodloni y byddai'n annhebyg i ddatblygiad mwynau cyfreithlon ailgychwyn i unrhyw raddau sylweddol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol rhannol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.