Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009, RHAN 5. Help about Changes to Legislation

RHAN 5LL+CPenderfynu ar Amodau

Penderfyniad tybiedig ar amodau o dan Ddeddfau 1991 a 1995LL+C

42.—(1Nid yw paragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 yn gymwys i gais AHGM amhenderfynedig oni fydd Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio o dan reoliad 9 neu 11 i'r perwyl nad yw'r datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA.

(2Wrth benderfynu, at ddibenion paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau), yr amser a aeth heibio heb i'r awdurdod cynllunio mwynau roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o'i benderfyniad, mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan reoliad 9 i'r perwyl bod datblygiad AHGM yn ddatblygiad esempt, neu o dan reoliad 11 i'r perwyl nad yw'r datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA, rhaid anwybyddu'r cyfnod cyn dyroddi'r cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 42 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)

Datgymhwyso paragraff 4(4) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991LL+C

43.  Nid yw paragraff 4(4) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (gofyniad bod awdurdod cynllunio mwynau yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad) yn gymwys i gais AEA a wneir o dan baragraff 2(2) o'r Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 43 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)

Penderfynu ar amodauLL+C

44.—(1Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad ynghylch cais AEA o fewn 16 wythnos o'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'n cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 21 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(b)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'n cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 31 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(c)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth berthnasol arall o dan reoliad 37,

neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng y ceisydd a'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad ynghylch cais AEA o fewn y cyfryw gyfnod ag y bo'n ofynnol ganddynt yn rhesymol ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 21 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(b)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 31 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(c)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth berthnasol arall o dan reoliad 37,

neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r ceisydd neu'r apelydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 44 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)

Apelau yn erbyn methiant i benderfynuLL+C

45.—(1Mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio) yn cael effaith fel pe bai hawl hefyd i apelio i Weinidogion Cymru(1) pan nad yw'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad yn unol â rheoliad 44.

  • Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Mae paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer gwneud hysbysiad o apêl o fewn chwe mis ar ôl diwedd y cyfnod o 16 wythnos neu gyfnod arall a gytunwyd yn unol â rheoliad 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 45 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddfau 1991 a 1995, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999 Rhif 672 ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

Back to top

Options/Help