RHAN 8Amrywiol
Cymhwyso Rhan VIII o Reoliadau 1999
52. Mae Rhan VIII (datblygu sydd ag effeithiau trawsffiniol sylweddol) o Reoliadau 1999 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys at ddibenion Rheoliadau 1999.
Cyflwyno hysbysiadau etc.
53. Ceir cyflwyno unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sydd i'w anfon, ei gyflwyno neu ei roi o dan y Rheoliadau hyn mewn modd a bennir yn adran 329 (cyflwyno hysbysiadau).
Ceisiadau i'r Uchel Lys
54.—(1) At ddibenion Rhan XII o'r Ddeddf (dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddiadau eraill), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288, fel y'i cymhwysir gan baragraff 9(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 16(4) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(4) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995, at weithredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol(1) nad yw o fewn pwerau'r Ddeddf, yn ymestyn i gynnwys penderfynu cais AEA gan Weinidogion Cymru yn groes i reoliad 3.
(2) At ddibenion Rhan XII o'r Ddeddf (dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddiadau penodol), mae adrannau 284 a 288 yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriadau yn adran 284(1)(e) a (2)(e) at orchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i'r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn a wnaed o dan y paragraff hwnnw, yn unol â rheoliad 51.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).