RHAN 1Cyffredinol
Gwahardd penderfynu heb ystyried gwybodaeth amgylcheddol3.
Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru beidio â phenderfynu cais AEA, nac apêl mewn perthynas â chais AEA, oni fyddant yn gyntaf wedi cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth amgylcheddol, a rhaid iddynt ddatgan yn eu penderfyniad eu bod wedi gwneud hynny.