RHAN 4Gwybodaeth Bellach, Tystiolaeth a Gwybodaeth Arall etc.

PENNOD 7Gwybodaeth Berthnasol Arall: Ymgynghori a Chyfranogiad y Cyhoedd

Gweithdrefn yn dilyn cyhoeddi o dan reoliad 3738

1

Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir o dan reoliad 36(5)(b), o fewn saith niwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach arall a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwnnw.

2

Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—

a

anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r wybodaeth berthnasol arall y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;

b

anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori; ac

c

rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).

3

Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—

a

anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori;

b

rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y dymuna'r corff eu gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac

c

anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.

4

Pan gyhoeddir gwybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37, rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu (yn ôl y digwydd), Gweinidogion Cymru, beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl tan ddiwedd cyfnod o 21 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

a

y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall mewn papur newydd lleol yn unol â rheoliad 37(1);

b

y dyddiad (os oedd un) y cyflwynwyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37(2);

c

y dyddiad yr arddangoswyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall ar y tir yn unol â rheoliad 37(3);

ch

y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth berthnasol arall at y cyrff ymgynghori yn unol â'r rheoliad hwn.