ATODLEN 3Hysbysiadau

1.

Nid yw'r geiriau sydd mewn cromfachau yn yr Atodlen hon yn rhan o'r Rheoliadau.

Hysbysiadau o dan reoliad 11 (cyfarwyddiadau sgrinio gan Weinidogion Cymru)

2.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 11(3) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth sgrinio (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 11(8) i ben);

(b)

effaith rheoliad 11(9) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad yr ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, ar y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd drwy hysbysiad ar y safle);

(dd)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

3.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 11(12)(b) yw—

(a)

effaith y cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru, sef na cheir penderfynu'r cais AHGM amhenderfynedig dan sylw heb ystyried yr wybodaeth amgylcheddol;

(b)

y bydd datganiad amgylcheddol drafft yn ofynnol maes o law;

(c)

ei bod yn ofynnol yn awr i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fabwysiadu barn gwmpasu o dan reoliad 12, neu, yn ôl y digwydd, ei bod yn ofynnol yn awr i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu o dan reoliad 14;

(ch)

effaith rheoliad 12(5) neu, yn ôl y digwydd, 14(11) (ataliad) os digwydd i unrhyw wybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol beidio â chael ei chyflwyno o fewn y cyfnod perthnasol;

(d)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(dd)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(e)

pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â chais AEA sydd gerbron awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ar gyfer ei benderfynu, effaith rheoliad 12(1) (cyfnod a ganiateir ar gyfer rhoi hysbysiad o farn gwmpasu);

(f)

yr hawl a roddir gan reoliad 12(8) (hawl i ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu);

(ff)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(g)

yr hawl i herio'r cyfarwyddyd sgrinio a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

Hysbysiadau o dan reoliad 12 (barnau cwmpasu gan yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol)

4.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 12(2) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 12(4) i ben);

(b)

effaith rheoliad 12(5) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 12(6) (ymgynghori cyn mabwysiadu barn gwmpasu);

(dd)

yr hawl a roddir gan reoliad 12(8) (hawl i ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu);

(e)

effaith rheoliad 12(9) (nid yw mabwysiadu barn gwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(f)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(ff)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

5.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 12(7)(b) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(2) i ben);

(b)

bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol drafft gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y farn gwmpasu;

(c)

effaith rheoliad 17(8) (atal);

(ch)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(d)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(dd)

effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);

(e)

effaith rheoliad 12(9) (nid yw mabwysiadu barn gwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(f)

effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn cyhoeddi);

(ff)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(g)

yr hawl i herio'r farn gwmpasu a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

6.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 12(10) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(2) i ben);

(b)

bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol drafft gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y cyfarwyddyd cwmpasu;

(c)

effaith rheoliad 17(8) (atal);

(ch)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(d)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(dd)

effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);

(e)

effaith rheoliad 13(14) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(f)

effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori);

(ff)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd).

Hysbysiadau o dan reoliad 13 (cyfarwyddiadau cwmpasu Gweinidogion Cymru y gofynnir amdanynt o dan reoliad 12(8))

7.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(4) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 13(9) i ben);

(b)

effaith rheoliad 13(10) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 13(11) (ymgynghori cyn mabwysiadu barn gwmpasu);

(dd)

effaith rheoliad 13(14) (nid yw mabwysiadu barn gwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

Hysbysiadau o dan reoliad 14 (cyfarwyddiadau cwmpasu gan Weinidogion Cymru)

8.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 14(5) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 14(10) i ben);

(b)

effaith rheoliad 14(11) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 14(12) (ymgynghori cyn rhoi cyfarwyddyd cwmpasu);

(dd)

effaith rheoliad 14(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

9.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 14(13)(b) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(3) i ben);

(b)

bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y cyfarwyddyd cwmpasu;

(c)

effaith rheoliad 17(8) (atal);

(ch)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(d)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(dd)

effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);

(e)

effaith rheoliad 14(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(f)

effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori);

(ff)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(g)

yr hawl i herio'r cyfarwyddyd cwmpasu a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

Hysbysiadau o dan reoliad 15 (cyfarwyddiadau cwmpasu amnewidiol)

10.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 15(5) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 15(10) i ben);

(b)

effaith rheoliad 15(11) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan reoliad 15(12) (ymgynghori cyn rhoi cyfarwyddyd cwmpasu);

(dd)

effaith rheoliad 15(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

11.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 15(13) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(4) i ben);

(b)

bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y cyfarwyddyd cwmpasu;

(c)

effaith rheoliad 17(8) (atal);

(ch)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(d)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(dd)

effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);

(e)

effaith rheoliad 15(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(f)

effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori);

(ff)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(g)

yr hawl i herio'r cyfarwyddyd cwmpasu a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

Hysbysiadau o dan reoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori)

12.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(6)(b) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth benodedig (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 18(8) neu, yn ôl y digwydd, rheoliad 18(9), i ben);

(b)

effaith rheoliad 18(10) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 18(12) i (24) (gofyniad i ystyried ffurf datganiad amgylcheddol);

(dd)

effaith rheoliad 18(25) (nid yw cyfarwyddyd i gyhoeddi yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

13.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(15) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft pellach (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 18(16) i ben);

(b)

effaith rheoliad 18(17) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 18(19) i (24);

(dd)

effaith rheoliad 18(25) (nid yw cyfarwyddyd i gyhoeddi yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

14.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(24)(ch) yw—

(a)

effaith rheoliad 19(1) (dyletswydd i gydymffurfio â rheoliad 21);

(b)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol o dan reoliad 21 (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 19(1) i ben);

(c)

effaith rheoliad 19(2) (atal);

(ch)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(d)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(dd)

gofynion rheoliad 20 (datganiadau amgylcheddol: y gofynion cyhoeddusrwydd);

(e)

gofynion rheoliad 21 (gofyniad i gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o gyhoeddi);

(f)

y gofyniad a osodir gan reoliad 22(1) (darparu copïau o ddatganiad amgylcheddol);

(ff)

y gofyniad a osodir gan reoliad 23 (argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol);

(g)

yr hawl a roddir gan reoliad 25 (codi tâl am gopïau o ddatganiadau amgylcheddol);

(ng)

pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â chais AEA sydd gerbron awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ar gyfer ei benderfynu, effaith rheoliad 24 (darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol i Weinidogion Cymru yn achos atgyfeiriad neu apêl);

(h)

effaith rheoliad 18(25) (nid yw cyfarwyddyd i gyhoeddi yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(i)

effaith rheoliad 32(4) (gwahardd penderfynu yn ystod cyfnod ymgynghori);

(j)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(l)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

Hysbysiadau o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach)

15.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 26(3) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno gwybodaeth bellach (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 26(4) i ben);

(b)

effaith rheoliad 26(5) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 28 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth: gwiriadau cyn ymgynghori);

(dd)

effaith rheoliad 26(6) (nid yw hysbysu yn atal y gofyniad i gyflwyno gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

Hysbysiadau o dan reoliad 27 (tystiolaeth)

16.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 27(3) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r dystiolaeth (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 27(4) i ben);

(b)

effaith rheoliad 27(5) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 28 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth: gwiriadau cyn ymgynghori);

(dd)

effaith rheoliad 27(6) (nid yw hysbysu yn atal y gofyniad i gyflwyno gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

Hysbysiadau o dan reoliad 28 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth: gwiriadau cyn ymgynghori)

17.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(5)(b) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth gael ei hailgyflwyno (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 28(6) i ben);

(b)

effaith rheoliad 28(7) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

effaith rheoliad 28(8) i (12);

(dd)

effaith rheoliad 28(13) (nid yw hysbysu yn atal y gofyniad i gyflwyno gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(e)

y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(f)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.

18.

Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(8)(ch) yw—

(a)

erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol o gyhoeddi (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 29(1) i ben);

(b)

effaith rheoliad 29(2) (atal);

(c)

effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);

(ch)

effaith rheoliad 51 (gwahardd);

(d)

gofynion rheoliad 30 (gwybodaeth bellach neu dystiolaeth: y gofynion cyhoeddusrwydd);

(dd)

gofynion rheoliad 31 (tystiolaeth ddogfennol o gyhoeddi);

(e)

effaith rheoliad 32(1) (darparu copïau ymgynghori i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru);

(f)

effaith rheoliad 33 (nifer rhesymol o gopïau o wybodaeth bellach neu dystiolaeth i'w rhoi ar gael i'r cyhoedd);

(ff)

yr hawl a roddir gan reoliad 35 (codi tâl am gopïau o wybodaeth bellach neu dystiolaeth);

(g)

effaith rheoliad 34 (darparu copïau o wybodaeth bellach a thystiolaeth i Weinidogion Cymru yn achos atgyfeiriad neu apêl);

(ng)

effaith rheoliad 32(4) (gwahardd penderfynu yn ystod cyfnod ymgynghori);

(h)

effaith rheoliad 28(13) (nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 28 yn rhwystro hawl i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth bellach neu dystiolaeth gael ei darparu);

(i)

ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);

(j)

yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.