ATODLEN 3Hysbysiadau
Hysbysiadau o dan reoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori)13
Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(15) yw—
a
erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft pellach (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 18(16) i ben);
b
effaith rheoliad 18(17) (atal);
c
effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
ch
effaith rheoliad 51 (gwahardd);
d
effaith rheoliad 18(19) i (24);
dd
effaith rheoliad 18(25) (nid yw cyfarwyddyd i gyhoeddi yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
e
y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
f
yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.