(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyflenwi gwybodaeth am blant sy'n cael addysg a ariennir gan awdurdod lleol y tu allan i ysgolion prif ffrwd, a honno'n addysg y cyfeirir ati fel arfer fel 'darpariaeth amgen'. Mae darpariaeth amgen yn cynnwys addysg nad yw mewn ysgol, addysg mewn ysgol annibynnol neu mewn uned cyfeirio disgyblion. O dan reoliadau 4 a 5 rhaid i ddarparwyr addysg o'r fath, os gofynnir iddynt wneud hynny, gyflenwi gwybodaeth am blant unigol i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol sy'n ariannu'r addysg. Mae Atodlen 1 yn nodi'r eitemau gwybodaeth am unigolion sydd i'w cyflenwi.

Mae rheoliad 6 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol perthnasol, sydd wedi cael gwybodaeth am blant unigol yn unol â'r Rheoliadau hyn, drosglwyddo gwybodaeth o'r fath i gwmnïau Gyrfa Cymru. Mae rheoliad 7 yn nodi'r personau (yn ychwanegol at goladyddion gwybodaeth) y caniateir i Weinidogion Cymru gyflenwi gwybodaeth am blant unigol iddynt. Mae rheoliad 8 yn nodi'r personau (yn ychwanegol at Weinidogion Cymru, coladyddion gwybodaeth eraill a darparwyr y ddarpariaeth amgen) y caniateir i goladydd gwybodaeth gyflenwi gwybodaeth am unigolion iddynt.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth am yr adroddiad y mae'n ofynnol i athro neu athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac i berchennog ysgol annibynnol anfon bob blwyddyn ysgol at rieni plant sy'n cael darpariaeth amgen. Mae Atodlen 2 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn yr adroddiadau.