Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysol Ewropeaidd) (Cymru) 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy'n dilyn cwrs dynodedig ym maes addysg uwch yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010.

Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyriwr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer y myfyriwr cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disgrifio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y grantiau, y weithdrefn ar gyfer gwneud cais a'r dull o gyfrifo swm y grant sy'n daladwy. Mae'r Rheoliadau yn disgrifio hefyd y trefniadau ar gyfer talu'r grantiau ac adennill unrhyw ordaliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 i'r graddau a nodir yn rheoliadau 4 a 5.