2009 Rhif 3376 (Cy.298)

AMAETHYDDIAETH, CYMRUBWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid syn cynhyrchu bwyd2 neu a fwydir iddynt, polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd3 a mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffyto-iechydol er diogelu iechyd y cyhoedd4.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol a ddiffinnir yn Atodlen 1 fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'ig diwygiwyd o dro i dro.

Yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5 cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau a ganlyn.