RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, deuant i rym ar 25 Ionawr 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 19706 iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl fel y digwydd;

  • ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) ac eithrio yn rheoliadau 23 a 24, yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, yn cael ei ddynodi at ddibenion unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Rheoliad 882/2004 ;

  • ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn;

  • F2mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (Regulation 853/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) “Rheoliad 1688/2005” (Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) F4a “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;

  • mae i “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 2;

  • mae i “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 3;

  • mae i “cynhyrchu sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary production” yn Rheoliad 852/2004;

  • F3ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Erthygl 14 o Reoliad 882/2004 i’r graddau y mae’n gymwys i reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd ag agweddau ar gyfraith bwyd anifeiliaid neu gyfraith bwyd nad ydynt wedi eu cwmpasu gan Gyfarwyddeb 97/78/EC8, Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004, Rheoliad 669/2009, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/20139 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 sy’n diwygio Rheoliad 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforio egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 19907;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

  • ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Offici l Control Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 882/2004; ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”)—

    1. a

      o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion rheoliad 14; a

    2. b

      o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'i gyfrifoldebau gorfodi o dan reoliad 17.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd heblaw ymadrodd a ddiffiniwyd ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

3

Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yn ôl fel y digwydd.

4

Pan ddyrennir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

a

drwy orchymyn o dan adran 2F1...o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19848, i awdurdod iechyd porthladd; neu

b

drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 19369, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y'u dyrennir iddo.

5

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o dro i dro.