Yr hawl i apelioLL+C
12.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—
(a)Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth);
(b)Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn); neu
(c)Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth), apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achosion.
(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.
F1(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(6) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 12(5)-(7) wedi ei hepgor (C.) (1.4.2011) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/626), rhlau. 1, 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1