RHAN 2LL+CY PRIF DDARPARIAETHAU

Arbenigwyr y ComisiwnLL+C

15.—(1Pan fo swyddog gorfodi yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, caiff y swyddog hwnnw fynd ag arbenigydd o'r Comisiwn gydag ef [F1ac arbenigydd cenedlaethol, a benodwyd at ddibenion Erthygl 116(4) o Reoliad 2017/625, i ddod gydag arbenigydd y Comisiwn, ac er mwyn galluogi’r arbenigydd hwnnw o’r Comisiwn] i gyflawni swyddogaethau o dan [F2Erthygl 116 o Reoliad 2017/625].

(2Ym mharagraff (1) ac ym mharagraff (5)(b) o reoliad 17 ystyr “swyddog gorfodi” yw swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol er mwyn gwirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.