Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 23/11/2010
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/01/2010. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, Adran 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl fel y digwydd;
ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) ac eithrio yn rheoliadau 23 a 24, yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, yn cael ei ddynodi at ddibenion unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Rheoliad 882/2004 ;
ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn;
mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002”, (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/200”, (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), Rheoliad 2073/2005 (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), , “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) a Rheoliad 1162/2009 (“Regulation 1162/2009”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;
mae i “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 2;
mae i “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 3;
mae i “cynhyrchu sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary production” yn Rheoliad 852/2004;
ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004 a Rheoliad 669/2009;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(2);
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;
ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Offici l Control Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 882/2004; ac
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”)—
o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion rheoliad 14; a
o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'i gyfrifoldebau gorfodi o dan reoliad 17.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd heblaw ymadrodd a ddiffiniwyd ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yn ôl fel y digwydd.
(4) Pan ddyrennir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3), i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(4), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,
dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y'u dyrennir iddo.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o dro i dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: