Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl fel y digwydd;

  • ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) ac eithrio yn rheoliadau 23 a 24, yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, yn cael ei ddynodi at ddibenion unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Rheoliad 882/2004 ;

  • ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn;

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002”, (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/200”, (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), Rheoliad 2073/2005 (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), , “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) a Rheoliad 1162/2009 (“Regulation 1162/2009”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;

  • mae i “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 2;

  • mae i “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 3;

  • mae i “cynhyrchu sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary production” yn Rheoliad 852/2004;

  • ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004 a Rheoliad 669/2009;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(2);

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

  • ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Offici l Control Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 882/2004; ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”)—

    (a)

    o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion rheoliad 14; a

    (b)

    o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'i gyfrifoldebau gorfodi o dan reoliad 17.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd heblaw ymadrodd a ddiffiniwyd ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yn ôl fel y digwydd.

(4Pan ddyrennir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(4), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y'u dyrennir iddo.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o dro i dro.

(4)

1936 p.49; mae adran 6 i gael ei darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.