RHAN 3RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd a statws awdurdod cymwysI124

1

Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.

2

Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19 i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

3

Mae dynodi awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn unol รข pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal yn unig.

4

Mae'r Asiantaeth yn cael ei dynodi'n awdurdod cymwys ar ddibenion Erthygl 19 o Reoliad 669/2009 i'r graddau y mae'n gymwys i gyfraith bwyd berthnasol.