24.—(1) Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.
(2) Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19 i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.
(3) Mae dynodi awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal yn unig.
(4) Mae'r Asiantaeth yn cael ei dynodi'n awdurdod cymwys ar ddibenion Erthygl 19 o Reoliad 669/2009 i'r graddau y mae'n gymwys i gyfraith bwyd berthnasol.