RHAN 3LL+CRHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Gwirio cynhyrchionLL+C

29.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag [F1Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) [F2, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] .

(2Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag [F1Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a [F2, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] , rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn eu cyflawni.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag [F1Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a [F2, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] , bydd gan y swyddog hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 29 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1