RHAN 2Y PRIF DDARPARIAETHAU

Awdurdodau cymwysI13

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

2

Pan fo'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal neu ei ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.

3

Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 5 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

4

Pan fo'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal yn unig.

5

Pan fo'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) neu (3) at ddibenion Erthygl 31(1) o Reoliad 882/2004, mae'r dynodiad yn ymestyn dim ond i'r gweithrediadau y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 200610 mewn perthynas â hwy yn rhinwedd rheoliad 5(1)(a) o'r Rheoliadau hynny.

6

Pan fo'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, mae'r dynodiad yn ymestyn o ran Erthygl 31(2)(a) i (e), dim ond i'r gweithrediadau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 mewn perthynas â hwy yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.