RHAN 3LL+CRHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

[F1Costau a ffioeddLL+C

36.(1) Mae’r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd y mesurau y mae’r gweithredydd yn atebol amdanynt o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.

(2) Mae’r costau rheolaethau swyddogol a gweithgareddau eraill y cyfeirir atynt yn [F2Erthygl 79(2)(a) ac] Erthygl 80 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.]