xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
37. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—
(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;
(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—
(i)y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, i'w fwyta gan bobl, neu
(ii)y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar unrhyw fangre neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan reoliad 39 neu odano;
(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar unrhyw fangre o'r fath neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac
(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 37 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1