RHAN 2Y PRIF DDARPARIAETHAU

Cyfnewid a darparu gwybodaeth4.

(1)

Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau OFFC eraill F1a Gweinidogion Cymru i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan F2Reoliad 2017/625 caiff yr awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau OFFC eraill unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(2)

Er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(3)

Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent wedi'i chaelawrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol gyda'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban er mwyn hwyluso gweithredu a gorfodi'r gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu'r gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.

(4)

Mae paragraffau (1), (2) a (3) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdodau cymwys i ddatgelu gwybodaeth drwy F3unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys neu odani.

(5)

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “awdurdodau OFFC eraill” yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion F4Rheoliad 2017/625 heblaw'r awdurdodau cymwys a ddynodwyd o dan y Rheoliadau hyn.