xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CRHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Tramgwyddau a chosbauLL+C

41.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r darpariaethau [F1mewnforio] penodedig neu yn methu â chydymffurfio â hwy;

(b)yn mynd yn groes i baragraff (3) o reoliad 26, paragraff (5) o reoliad 27 F2... neu yn methu â chydymffurfio â hwy;

(c)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r gwaharddiadau ym mharagraff (1) o reoliad 28;

(ch)i'r graddau na fydd mynd yn groes i reoliad 29 neu fethu â chydymffurfio ag ef yn dramgwydd o dan reoliad 40, yn mynd yn groes i reoliad 29 neu'n methu â chydymffurfio ag ef; neu

(d)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Darpariaethau Mewnforio,

[F3(e)yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.]

yn euog o dramgwydd.

[F4(1A) Bydd unrhyw berson sy’n mewnforio i Gymru neu’n rhoi ar y farchnad unrhyw egin neu hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer egino nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion ardystio [F5Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628] yn euog o dramgwydd.]

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 0 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.