Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyllLL+C
49.—(1) Ni fydd swyddog i gorff perthnasol yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; a
(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw gorff perthnasol rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.
(3) Pan fo achos cyfreithiolawedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i gorff perthnasol mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog—
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; ond
(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,
caiff y corff indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r corff hwnnw wedi'i fodloni bod y swyddog yn credu'n onest bod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
(4) I'r graddau y mae awdurdod bwyd yn gorff perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “corff perthnasol” yw corff sy'n gweithredu—
(a)fel awdurdod cymwys;
(b)fel awdurdod gorfodi fel y'i diffinnir yn rheoliad 22; neu
(c)fel awdurdod gorfodi perthnasol.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 49 cymhwyso (C.) (31.1.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44), rhlau. 1(2), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 49 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1