xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY PRIF DDARPARIAETHAU

Sicrhau gwybodaethLL+C

5.—(1Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys [F1a Gweinidogion Cymru] i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan [F2Reoliad 2017/625] ac er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i [F3gorff dirprwyedig]

(a)darparu i'r awdurdod cymwys unrhyw wybodaeth y mae ganddo achos rhesymol dros gredu bod y [F3corff dirprwyedig] yn gallu ei rhoi; a

(b)trefnu bod unrhyw gofnodion y mae ganddo achos rhesymol dros gredu eu bod gan y corff rheoli neu eu bod fel arall o dan ei reolaeth ar gael i'r awdurdod cymwys i'w harchwilio ganddo (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, trefnu eu bod ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion y trefnir eu bod ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).

(3Mae person sydd—

(a)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1); neu

(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys neu sydd yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(4At ddibenion paragraff (1), mae'r term “ [F4corff dirprwyedig] ” yn cynnwys unrhyw aelod, swyddog neu gyflogai i [F4gorff dirprwyedig] .