Rheoliad 2(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw—
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol—
rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(1),
rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion) (Cymru a Lloegr) 2008(2),
cymhwyso rheolau y caniateir cydnabod arbenigedd traddodiadol a warentir odanynt ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir(3),
cymhwyso rheolau ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(4),
rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig 2009(5),
rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(6),
rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid—
o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(7),ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth,
o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(8),ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth;
y materion a reolir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(9) i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran I a phwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 fel y'i darllenir gyda Phenderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglenni monitro BSE Blynyddol(10) i'r graddau y mae'r pwyntiau hynny'n gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta; a
rheoleiddio gwirodydd o dan Reoliadau Gwirodydd 2008(11);
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd; ac
cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mhwynt 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliad 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.
O.S. 1997/1729, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3254 (Cy.247), O.S. 2006/755, a 2009/1925.
OJ Rhif L93, 31.3.2006, t.1.
OJ Rhif L93, 31.3.2006, t.12 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 17/2008 sy'n diwygio Atodiadau I a II i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd (OJ Rhif L125, 9.5.2008, t.27).
O.S.1996/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S.2001/2198 (Cy.18), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/07 (Cy.6), O.S. 2002/129 (Cy.17), O.S. 2002/1476 (Cy.148), O.S. 2003/3229 (Cy.309), O.S. 2004/1430 (Cy.144), O.S. 2005/1310 (Cy.92) ac O.S. 2006/2407.
O.S. 2007/376 (Cy.36), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1710 (Cy.148), O.S. 2009/392 (Cy.41) ac O.S. 2009/1088 (Cy.96).
O.S. 2008/3154 (Cy.282), a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/3266 (Cy.288) ac O.S. 2009/192 (Cy.24).
OJ Rhif L256, 29.9.2009, t.35.