I1ATODLEN 6DARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 669/2009 | Y cynnwys |
Erthygl 6 fel y'i darllenir gydag Erthygl 7 | Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr roi hysbysiad digonol ymlaen llaw o amcangyfrif o'r dyddiad a'r amser y bydd y llwyth yn ffisegol yn cyrraedd y pwynt mynediad dynodedig ac o natur y llwyth yn y modd a nodir yn yr Erthygl honno (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llenwi a'i throsglwyddo o leiaf un diwrnod gwaith ymlaen llaw) ac yn Erthygl 7 (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llunio yn iaith swyddogol yr Aelod-wladwriaeth er y caiff yr Aelod-wladwriaet h gydsynio i lunio dogfennau mynediad cyffredin mewn un o ieithoedd swyddogol eraill y Gymuned). |
Erthygl 8(2) ail baragraff | Gofyniad bod yn rhaid i gopi gwreiddiol y ddogfen fynediad gyffredin gyd-fynd â'r llwyth wrth iddo gael ei gludo ymlaen hyd oni fydd yn cyrraedd ei gyrchfan fel a ddangosir yn y ddogfen. |
Erthygl 11 | Gofyniad, mewn achosion lle y mae nodweddion arbennig y llwyth yn haeddu hynny, fod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr drefnu bod y canlynol ar gael i'r awdurdod cymwys:
|
Paragraff cyntaf Erthygl 12 | Gofyniad bod rhaid peidio â rhannu llwythi nes bod y lefel uwch o reolaethau swyddogol wedi'i chwblhau a bod y ddogfen fynediad gyffredin wedi'i llenwi gan yr awdurdod cymwys. |
Ail baragraff Erthygl 12 | Gofyniad os caiff y llwyth ei rannu wedyn fod rhaid i gopi wedi'i ddilysu o'r ddogfen fynediad gyffredin gyd-fynd â phob rhan o'r llwyth nes iddi gael ei rhyddhau i gylchredeg yn rhydd. |
Atod. 6 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1