Rheoliad 51

ATODLEN 7LL+CATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU BWYD ANIFEILIAID (HYLENDID A GORFODI) (CYMRU) 2005

Rheoliad 2

ATODLEN 1LL+CCYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BENODEDIG

  • Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970,i'r graddau y mae'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid

  • Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

  • Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

  • Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 i'r graddau y maent yn ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd,i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio mewn cysylltiad â maeth i anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n dod o anifeiliaid, ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC,i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid..