I1ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH YR UE

Rheoliad 2(1)

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

I1
  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC21;

  • ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathï au sbyngffurf trosglwyddadwy penodol 22;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd23 fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid24 fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1020/2008 a F2“Rheoliad 1079/2013”;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau gwirio bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid25 fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, F10a Rheoliad 669/2009;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden26;

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd27;

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200428;

  • ystyr “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran marciau adnabod, llaeth crai a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau a chynhyrchion pysgodfeydd penodol29;

  • ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran lefel uwch y rheoliadau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC30; ac

  • F1...

  • F11...

  • F3ystyr “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.

I2ATODLEN 2DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Rheoliad 2(1)

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 2 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

I2
  • ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw—

    1. a

      Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 197032 i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

    2. b

      F6...

    3. c

      F7...34

    4. ch

      Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid;

    5. d

      F5Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 ; a

    6. dd

      F4Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 .

    7. e

      F9Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018.

I3ATODLEN 3DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Rheoliad 2(1)

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 3 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

I3
  • ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw—

    1. a

      cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol—

      1. i

        rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 199737,

      2. ii

        rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion) (Cymru a Lloegr) 200838,

      3. iii

        cymhwyso rheolau y caniateir cydnabod arbenigedd traddodiadol a warentir odanynt ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn F12Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd,

      4. iv

        cymhwyso rheolau ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn F13Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd,

      5. v

        rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig 200941,

      6. vi

        F14rheoleiddio labelu cig eidion a chig llo o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011,

      7. vii

        F15rheoleiddio mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o dan Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 32(3)(b) o’r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth,

      8. viii

        y materion a reolir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 200845 i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran I a phwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 fel y'i darllenir gyda Phenderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglenni monitro BSE Blynyddol46 i'r graddau y mae'r pwyntiau hynny'n gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta; a

      9. ix

        rheoleiddio gwirodydd o dan Reoliadau Gwirodydd 200847;

    2. b

      cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd; ac

    3. c

      cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mhwynt 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliad 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

I4ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Rheoliad 3(1)

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 4 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

I4

Colofn 1

Colofn 2

Awdurdod cymwys

Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004

Yr Asiantaeth

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 27, 28, 31(1) a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54

Yr awdurdod bwyd anifeiliaid

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

I5ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Rheoliad 3(3)

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 5 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

I5

Awdurdod cymwys

Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004

Yr Asiantaeth

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1), (2) a (3), 24, 27, 28, 31, 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54

Yr awdurdod bwyd

Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

I6ATODLEN 6DARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG

Rheoliadau 22 a 1(1)(a)

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 6 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

I6

Colofn 1

Colofn 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 669/2009

Y cynnwys

Erthygl 6 fel y'i darllenir gydag Erthygl 7

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr roi hysbysiad digonol ymlaen llaw o amcangyfrif o'r dyddiad a'r amser y bydd y llwyth yn ffisegol yn cyrraedd y pwynt mynediad dynodedig ac o natur y llwyth yn y modd a nodir yn yr Erthygl honno (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llenwi a'i throsglwyddo o leiaf un diwrnod gwaith ymlaen llaw) ac yn Erthygl 7 (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llunio yn iaith swyddogol yr Aelod-wladwriaeth er y caiff yr Aelod-wladwriaet h gydsynio i lunio dogfennau mynediad cyffredin mewn un o ieithoedd swyddogol eraill y Gymuned).

Erthygl 8(2) ail baragraff

Gofyniad bod yn rhaid i gopi gwreiddiol y ddogfen fynediad gyffredin gyd-fynd â'r llwyth wrth iddo gael ei gludo ymlaen hyd oni fydd yn cyrraedd ei gyrchfan fel a ddangosir yn y ddogfen.

Erthygl 11

Gofyniad, mewn achosion lle y mae nodweddion arbennig y llwyth yn haeddu hynny, fod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr drefnu bod y canlynol ar gael i'r awdurdod cymwys:

  1. a

    digon o adnoddau dynola logistaiddi ddadlwytho'r llwyth, er mwyn rhoi'r rheolaethau swyddogol ar waith; a

  2. b

    yr offer priodol ar gyfer samplu i ddadansoddi o ran cludiant arbennig a/neu ffurfiau pecynnu penodol,i'r graddau na ellir cyflawni'r cyfryw samplu'n gynrychioliadol gydag offer samplu safonol.

Paragraff cyntaf Erthygl 12

Gofyniad bod rhaid peidio â rhannu llwythi nes bod y lefel uwch o reolaethau swyddogol wedi'i chwblhau a bod y ddogfen fynediad gyffredin wedi'i llenwi gan yr awdurdod cymwys.

Ail baragraff Erthygl 12

Gofyniad os caiff y llwyth ei rannu wedyn fod rhaid i gopi wedi'i ddilysu o'r ddogfen fynediad gyffredin gyd-fynd â phob rhan o'r llwyth nes iddi gael ei rhyddhau i gylchredeg yn rhydd.

F8ATODLEN 7ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU BWYD ANIFEILIAID (HYLENDID A GORFODI) (CYMRU) 2005

Rheoliad 51

Annotations:

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .