Rheoliad 2(1)

[F1ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH YR UE

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;

ystyr “Penderfyniad 2007/275” (“Decision 2007/275”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestri o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC;

ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol;

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden;

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd;

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004;

ystyr “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;

Pecyn Rheoliad 2017/625

ystyr “Rheoliad 2018/329” (“Regulation 2018/329”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/329 sy’n dynodi Canolfan Gyfeirio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Lles Anifeiliaid;

ystyr “Rheoliad 2018/631” (“Regulation 2018/631”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2018/631 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy sefydlu labordai cyfeirio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer plâu planhigion;

ystyr “Rheoliad 2019/66” (“Regulation 2019/66”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/66 ar reolau ynghylch trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill er mwyn gwirio cydymffurfedd â rheolau’r Undeb ar fesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion sy’n gymwys i’r nwyddau hynny;

ystyr “Rheoliad 2019/478” (“Regulation 2019/478”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/530” (“Regulation 2019/530”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/530 sy’n dynodi labordai cyfeirio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer plâu planhigion ar bryfed a gwiddon, nematodau, bacteria, ffyngau ac oomysetau, firysau, firoidau, a ffytoplasmâu;

ystyr “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

ystyr “Rheoliad 2019/625” (“Regulation 2019/625”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl;

ystyr “Rheoliad 2019/626” (“Regulation 2019/626”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn;

ystyr “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol;

ystyr “Rheoliad 2019/628” (“Regulation 2019/628”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn;

ystyr “Rheoliad 2019/723” (“Regulation 2019/723”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/723 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y ffurflen enghreifftiol safonol i’w defnyddio yn yr adroddiadau blynyddol a gyflwynir gan Aelod-wladwriaethau;

ystyr “Rheoliad 2019/1012” (“Regulation 2019/1012”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/1013” (“Regulation 2019/1013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/1014” (“Regulation 2019/1014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli;

ystyr “Rheoliad 2019/1081” (“Regulation 2019/1081”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/1602” (“Regulation 2019/1602”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan;

ystyr “Rheoliad 2019/1666” (“Regulation 2019/1666”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/1715” (“Regulation 2019/1715”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system (y Rheoliad SRhGRhS);

ystyr “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/1660;

ystyr “Rheoliad 2019/1873” (“Regulation 2019/1873”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cyd-gysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd.]

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2LL+CDIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

  • ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw—

    (a)

    Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

    (b)

    F2...

    (c)

    F3...(2)

    (ch)

    Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid;

    (d)

    [F4Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016] ; a

    (dd)

    [F5Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016] .

    (e)

    [F6Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018.]

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3LL+CDIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

  • ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw—

    (a)

    cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol—

    (i)

    rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(3),

    (ii)

    rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion) (Cymru a Lloegr) 2008(4),

    (iii)

    F7...

    (iv)

    [F8cymhwyso rheolau ar gynlluniau ansawdd sy’n darparu’r sail ar gyfer adnabod a gwarchod enwau a thermau sy’n dynodi neu’n disgrifio cynhyrchion amaethyddol ac iddynt nodweddion sy’n ychwanegu gwerth a nodir yn Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 21 Tachwedd 2012 ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd,]

    (v)

    rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig 2009(5),

    (vi)

    [F9rheoleiddio labelu cig eidion a chig llo o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011,]

    (vii)

    [F10rheoleiddio mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o dan Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 32(3)(b) o’r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth,]

    (viii)

    y materion a reolir o dan Atodlen 2 i [F11Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018] i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran I a phwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 fel y'i darllenir gyda Phenderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglenni monitro BSE Blynyddol(6) i'r graddau y mae'r pwyntiau hynny'n gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta; a

    (ix)

    rheoleiddio gwirodydd o dan Reoliadau Gwirodydd 2008(7);

    (b)

    cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd; ac

    (c)

    cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mhwynt 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliad 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Rheoliad 3(1)

[F12ATODLEN 4LL+CAWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1

Awdurdod Cymwys

Colofn 2

Y darpariaethau yn Rheoliad 2017/625

Yr AsiantaethErthyglau 4(2), 5(1) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 42, 63, 65(5), 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 88, 89, 91, 93, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110,111, 113, 115, 116, 124, 130, 135, 137, 138, 140
Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 4(2) a (3), 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 26, 28, 29 30, 31, 32 33, 35, 36, 37, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65, 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 130, 135, 137, 138, 140.]

Rheoliad 3(3)

[F13ATODLEN 5LL+CAWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1

Awdurdod Cymwys

Colofn 2

Y darpariaethau yn Rheoliad 2017/625

Yr AsiantaethErthyglau 4(2) a (3), 5(4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 24, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 42, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 51, 53, 55, 56, 57, 63, 65, 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 135, 137, 138, 140, 148, 150
Yr awdurdod bwydErthyglau 4(3), 5(1) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 24, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 42, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 51, 53, 55, 56, 57, 63, 65, 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 135, 137, 138, 140, 148, 150.]

Rheoliadau 22 ac 41(1)(a)

[F14ATODLEN 6LL+CDARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG

Colofn 1

Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE

Colofn 2

Pwnc

Rheoliad 2017/625
Erthygl 69(1)Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i gyflawni’r holl fesurau y mae’r awdurdodau cymwys yn eu gorchymyn.
Rheoliad 2019/1602
Erthygl 3Gofyniad bod DFIG i fynd gyda pob llwyth pa un a gaiff ei hollti yn y safle rheoli ar y ffin neu ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin ai peidio.
Erthygl 4(a)Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda’r llwyth i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 4(b)Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(1)(a)Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth hysbysu ymlaen llaw, i ddatgan mai’r safle rheoli ar y ffin yw’r gyrchfan yn y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan.
Erthygl 5(1)(b)Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i ofyn am i’r llwyth gael ei hollti, a’i fod i gyflwyno, drwy’r SRhGRhS, DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 5(1)(d)Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn mynd gyda’r rhan berthnasol i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 5(1)(e)Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(2)(a)Pan fo llwyth nad yw’n cydymffurfio i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i gyflwyno DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 6(a)Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda phob rhan o’r llwyth a holltwyd hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 6(b)Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Rheoliad 2019/1666
Erthygl 3(1)Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi gwybod i’r awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y sefydliad yn y gyrchfan, fod y llwyth wedi cyrraedd, a hynny o fewn un diwrnod i gyrhaeddiad y llwyth.]

Rheoliad 51

F15ATODLEN 7LL+CATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU BWYD ANIFEILIAID (HYLENDID A GORFODI) (CYMRU) 2005

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .